Sunday 31 July 2011

Dysgu'r Llydaweg

Tybed os oes rhywun fedrith helpu fi o gwbwl? Ar hyn o bryd dwi'n ymgeisio ddysgu Llydaweg yn fy amser rhydd, ac mae gen i llyfr da iawn ar gyfer ddechreuwyr, sef "Colloquial Breton: A Conmplete Course for beginners." Rwan ta, er fy mod i mond ar dechra fy nhaith o ddysgu'r iaith, rydw i eisioes yn tybio sut i bwrw mlaen unwaith fyddai wedi darfod y cwrs. Hynny yw, dwi heb wedi darganfod cyrsiau pellach yn y Llydaweg, er fy mod i wedi darganfod ambell i lyfr gramadeg a geiriadur. Felly os oes yna rhywun sydd yn gwybod os oes yna cysiau pellach yn bodoli er mwyn i fi bwrw mlaen hefo fy astudiaeth o'r iaith, byswn i'n wir yn werthawrogi cael gwybod amdanynt.

Diolch

Gog Amlieithog   

Monday 25 July 2011

Arweinyddiaeth Plaid Cymru

Dwi newydd wedi darllen yr erthygl canlynol http://www.walesonline.co.uk/news/welsh-politics/welsh-politics-news/2011/07/23/party-veteran-a-safe-pair-of-hands-and-even-non-welsh-speakers-all-contenders-for-leadership-91466-29105461/ ynglyn a aelodau sydd efallai yn debygol i geisio fod yn arweinydd newydd i'r Blaid y flwyddyn nesaf, ac yn meddwl bod yr ddisgrifiadau o'r aelodau'n diddfyr, er efallai dwi'n anghytuno hefo rhai sylwadau ac felly, rydw i am rhoi fy marn personol ar yr aelodau yn yr erthygl, yn ogystal ar y rhai yn y grwp sydd heb wedi cael eu nodi.

Dafydd-El : Er y mai o ydi'r unig un hyd yn hyn sydd wedi ddweud yn bendant ei fod o am sefyll, dwi yn meddwl y mae yna rhesymau ddigon dilys dros peidio ethol o fel arweinydd newydd. Yn gyntaf, fel sydd eisioes wedi cael ei nodi yn yr erthygl, mae ei oedran yn wendid mawr, yn enwedig gan ystyried y fydd o'n 69 erbyn yr etholiad nesaf i'r Cynulliad. Yn ogystal, wrth gwrs mae o eisioes wedi bod yn arweinydd i'r Blaid yn y gorffennol, ac felly teimlaf fydd y Blaid yn cymryd cam yn ol tasa Dafydd-El yn cael ei ail-ethol fel arweinydd.

Elin Jones: Oni bai am y ffaith y mae hi wedi bod yn Wenidog dros faterion gwledig rhwng 2007-11 yn ogystal a AC ers 1999 ac felly ma'i hefo profiad sylweddol, dwi ddim yn sicr o sut fysa'r Blaid yn elwa hefo Elin Jones wrth y llyw, ond efallai fy mod i wedi methu rhywbeth amlwg...

Simon Thomas: Dwi'n meddwl er mae o mond wedi bod yn AC ers mis Mai, mae'r ffaith ei fod o wedi bod yn AS, yn ogystal a'r ffaith ei fod o'n cynrychioli etholaeth weddol eang yn golygu bysa Simon yn dewis dda, gan tydi ddim yn cynrychioli'r "gogs" na'r "hwntws" yn unig. Yr unig peth dwi ddim yn ddallt ydi sut ei fod o'n dewis dadleuol, fel sy'n cael ei awgrymu yn yr erthygl. I fi, mae o'n edrych fel dewis ddigon saff (er, gan cadw mewn co'r canlyniadau'r etholiad i Nick Bourne, does ddim sicrwydd wneith o cadw ei sedd yn y dyfodol chwaith.)

Jocelyn Davies: Hyd a gwn i, mae Jocelyn yn AC dda ar y cyfan. Yr unig peth sydd yn edrych fel anhawster iddi hi o safbwynt dod yn arweinydd i'r Blaid ydi'r ffaith tydi hi ddim yn medru'r Gymraeg. Yn personol, dwi ddim yn weld hyn fel wendid fawr, ond wrth gwrs fedrai dallt yn iawn pam na fysa nifer o aelodau'r Blaid yn fodlon cael arweinydd di-Gymraeg. Ond cawn ni weld be wneith digwydd.

Rhodri Glyn Thomas: Dwi'n meddwl fysa Rhodri'n ddewis dadleuol iawn gan ystyried ei record mewn Llywodraeth. Yn ogystal, dwi'n meddwl, unwaith eto bod angen rhywun ychydig yn iau i arwain y Blaid.

Leanne Wood: 2 air "Mrs Windsor." Ka-ching. O ddifrif rwan, dwi'n meddwl efallai bysa Leanne yn gallu bod yn dewis dda gan ystyried y ffaith tydi hi ddim yn siarad Cymraeg, yn ogystal a'r ffaith fod hi'n dod o'r Cymoedd (eto, gan ystyried angen y Blaid i apelio fwy at Cymry di-Gymraeg yn ogystal a Chymry-Cymraeg.) Ond wrth gwrs, efallai 'sa Leanne yn dewis dadleuol iawn hefyd, gan ystyried y petha dadleuol mae hi 'di ddweud yn y gorffennol. Hefyd, cafodd hi erioed rol sylweddol i chwarae rhwng 2007-11 ac felly, does ddim tystiolaeth o faint mor dda bysa hi yng Nghabinet y Cynulliad

Llyr Huws Gruffydd: Wrth gwrs mae Llyr wedi dweud yn bendant na fydd o'n ymgeisio fod yn arweinydd y flwyddyn nesaf, ond eto, mae'n edrych i fi fod o'n ddatblygu i fod yn AC dda.

Alun Ffred Jones: Eto, credaf fod Alun Ffred yn rhy hen ac mae angen aelod iau i arwain y Blaid.

Lindsay Whittle: Dwi ddim yn gwybod lot amdano i ddweud y gwir ac ta beth, fel Llyr, gan ei fod o'n aelod newydd, dwi ddim yn meddwl bysaf o'n dewis dda ar hyn o bryd.

Bethan Jenkins: AC dda iawn hyd a gwn i, ond dwi methu rhagweld Bethan fel arweinydd, na chwaith sut fath o arweinydd fysa hi.

Ar y cyfan felly, wrth edrych ar y aelodau hyn, dwi'n meddwl bysa Simon Thomas yn dewis doeth iawn fel arweinydd.     

Monday 11 July 2011

Cynllunio tai yn Sir Gaerfyrddin a'r iaith Gymraeg

Yn ol yr erthygl canlynol oddiwrth wefan Golwg360 http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/43510-ofnau-am-fewnfudo-i-sir-gaerfyrddin mae'r iaith Gymraeg fel iaith cymunedol tu fewn y sir o dan bygythiad. Ar ol ddarllen yr erthygl, gan ystyried yr hyn sydd o dan sylw yn Sir Dinbych yn ddiweddar, credaf yr prif fater o bwys o fewn yr erthygl ydi'r nifer o dai mae'r cyngor yn bwriadu codi, gan ystyried efallai na fydd nifer y pobl sydd yn byw tu fewn y sir yn cynyddu'n naturiol erbyn 2016 er fwyn llenwi'r tai, ac felly, pobol o tu allan y sir fydd yn prynu'r fwyafrif o'r dai.

Yn ogystal, mae rhaid gofyn hefyd faint o'r tai fydd tai fforddiadwy ac felly beth fydd y tebygolrwydd o pobl lleol yn prynnu canran o'r tai newydd?

Credaf y ffactorau uchod ydi'r rhai bwysig gan nad ydi'r cyngor (hyd a gwn i) yn ymateb i unrhyw galwad o fewn y sir ac eu fod nhw (yn ogystal a'r Cynulliad) wedi ymddwyn yn anghyfrifol (er nad ydw i, wrth reswn yn cytuno hefo'r ymatebion i'r erthygl).

Gan ystyried yr iaith Gymraeg, yn 2001 roedd 50% o trigolion y sir yn medru siarad Cymraeg. Rydw i wedi clywed a ddarllen am sawl ffactor sydd yn golygu (yn fy marn i) fydd y ffigwr wedi mynd o dan hanner cant pryd fydd canlyniadau'r cyfrif y flwyddyn hon a'r ffigyrau ynglyn a'r iaith wedi cael eu gyhoeddi, ond wrth gwrs, rydw i'n obeithio wneith rhywun sydd yn byw yn Sir Gar yn medru rhoi ddarlun fwy cadarnhaol imi (h.y. ynglyn a'r sefyllfa'r iaith yn y sir.)

Addysg: Ar ol ddarllen cynllun addysg Gymraeg y sir http://www.carmarthenshire.gov.uk/English/education/Documents/Welsh_Education_Scheme.pdf mae'r sefyllfa'r iaith yn enwedig yn y sector uwchradd yn edrych yn bregys. Yn ogystal, mae'r ffrae sydd wedi bod yn bwrw mlaen yn Cwm Gwendraeth yn golygu efallai fydd ddarpariaeth gyfrwng Gymraeg y sir yn lleihau (efallai bod y galw am addysg "ddwyieithog" yn dod oddi wrth pobol di-Gymraeg sy'n symud i'r sir, felly mae'r ffactorau yn cysylltiedig i raddau.)

Trosglwyddo'r iaith i'r genhedlaeth nesaf: Yn ol be dwi di clywed, mae 'na fwy o diffyg hyder ymysg Cymry Sir Gaerfyrddin i trosglwyddo'r iaith 'na sydd 'na yn llefydd eraill yn Y Fro Gymraeg. Eto dwi'n gobeithio dderbyn gwybodaeth oddi wrth rhywun sydd yn byw yn Sir Gar er fwyn cadarnhau neu dadlau'r pwynt a chywiro fi os dwi'n anghywir.

Yn fy marn i, yn ogystal a'r prosiect codi tai'r sir, y ffactorau uchod sydd yr fygythiad fwyaf i'r iaith, nid yn unig pobol di-Gymraeg (er ei fod nhw'n chwarae rhan, weithiau mae nhw yn ymdrechu i ddysgu'r iaith, felly nid bai y nhw yn unig ydi'r sefyllfa presennol.)      

Thursday 7 July 2011

Croeso

Wel dyma fy mlog newydd. Fel rydw i wedi nodi yn y gwybodaeth amdanai, mi fyddai'n blogio am amrywiaeth o betha trwy gyfrwng y Gymraeg.