Monday 26 September 2011

Canolfan Gymraeg newydd i Wrecsam

Yn gyntaf, hoffwn ymddiheuro am y ddiffyg o bostiau sydd wedi bod ers y rhai ddwythaf. Ond gan fy mod i'n nol yn y brifysgol rwan, bydd llai o amser gen i i flogio drost y flwyddyn nesaf.

Rwan 'ta, yn ol at prif bwriad y post hwn. Yn ol erthygl fan hyn, mae rhagor o cyfarfodydd wedi bod yn cymryd lle ynglyn a'r Canolfan Gymraeg newydd yn Wrecsam. Er fy mod i'n bersonnol yn ffafrio'r syniad o ganolbwyntio ar adfywio'r iaith yn siroedd megis Sir Fon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin, ac wedyn adfywio'r iaith yn ardaloedd fwy Saesneg, dwi'n meddwl mae hyn yn ddatblygiad arwyddocaol dros ben. Dwi'n credu hyn oherwydd, hyd yn oed tu allan i'r Fro Gymraeg, mae'n hanfodol i sicrhau mae yna llefydd i siaradwyr Cymraeg (rhai mamiaith a ddysgwyr) ddod at eu gilydd mewn rhanbarthau o Gymru lle nac ydi'r iaith mor "amlwg" fel petai. Mae canolfan o'r fath hefyd yn bwysig oherwydd mae yna cyfle hollbwysig i ddysgwyr a siaradwyr sydd wedi elwa o'r sustem addysg cyfrwng Cymraeg cael cyfla i defnyddio'r iaith mewn sefyllfa fwy anffurddiol er fwyn iddynt gallu sylweddoli mae'r iaith Gymraeg yn iaith fyw sydd yn gallu cael ei defnyddio tu allan i'r ystafell dosbarth.

Pob hwyl Wrecsam!

Sunday 18 September 2011

Ail-ddechra yn y brifysgol fel myfyriwr MA.

Rydw i'n fynd i ddychwelyd i Brifysgol Bangor heddiw fel myfyriwr MA mewn Polisi a Chynllunio Ieithyddol. Gan ystyried fy mod i eisioes wedi graddio fel myfyriwr is-raddedig ar ol treilio 4 blynedd ym Mangor, mae'n teimlo'n diarth dros ben fy mod i'n mor nerfus. Ta waeth, dwi'n sicr y byddai wedi setlo cyn bo hir.

Ddamwain Cilybebyll

Hoffwn ddatgan fy mod i'n cyd-ymdeimlo'n fawr iawn gyda teuluoedd y 4 wnath farw yn y ddamwain yng Nghwm Tawe. Mae rhaid ei fod o'n rhywbeth eithriadol o annodd i ymdopi hefo, ond dwi'n siwr wneith y gymuned tynnu at eu gilydd er fwyn gefnogi eu gilydd.

Wednesday 7 September 2011

2 achos o bryder i'r iaith Gymraeg heddiw

Mae yna 2 erthygl ar wefan Golwg360 heddiw sydd yn gwneud imi poeni unwaith yn rhagor am ddyfodol yr iaith Gymraeg oherwydd sawl ffactor, ond y prif ffactor yn y 2 erthygl yn fy marn i yw ddiffyg awydd intergreiddio.

Yn gyntaf, mae'n gywilyddys imi ddarllen yma bydd ddim rhaid i perchnogion newydd Radio Ceredigion ddarlledu yn y Gymraeg. Yn fy marn i, mae hyn yn ddangos yn glir bydd rhaid i bobl leol ceisio cymeryd y drwydded drosodd os fydd 'na unrhyw gobaith cynnal gwasanaeth ddwyieithog neu mae yna peryg na fydd yr orsaf yn wasaneuthu 52% o'r boblogaeth y sir yn deg trwy peidio cynnal gwasanaeth ddwyieithog.

Yn ogystal, mae yna erthygl arall yn fama sydd yn achosi imi poeni oherwydd yn bennaf fydd 'na ddim modd i bobl lleol prynnu tai yn eu ardaloedd enedigol oherwydd prisiau sydd yn llawer rhy uchel a chyflogau'n llawer rhy isel. Fel rhywun sydd yn ddwad o Eryri dwi'n gwybod yn iawn bod mae yna gormod o tai wedi cael eu brynnu fel ail gartrefi/tai haf. Yn ogystal, fel sydd yn gael ei nodi yn yr erthygl, mae yna gormod o pobl ifanc symyd allan ac lot rhy gormod o pobl hen sydd yn symyd i'r ardal sydd, ar y cyfan yn gwrthod intergreiddio na ddysgu'r iaith yn gyfan gwbwl. Dwi'n gobeithio ddarfod yn y Brifysgol y flwyddyn nesaf, cael gwaith a cael cartref fi'n hyn, ond tydi o ddim yn edrych yn debyg y fydd o'n bosib oherwydd yr hyn sydd eisioes wedi cael ei nodi yn yr erthygl. Ble mae'r tecwch, ac yn pwysicach fyth, beth mae'r ASau/ACau sydd yn cynrychioli'r ardal, yn ogystal a'r parc cenedlaethol, yn mynd i gwneud am y peth??  

Thursday 1 September 2011

Elin Jones yn gyhoeddi ei fwriad i sefyll fel ymgeisydd i arwain y Blaid.

Er fy mod i wedi nodi mewn post yn y gorffennol (yn mis Gorffenaf dwi'n meddwl) y rhesymau drost peidio ethol Elin Jones fel arweinydd nesaf Plaid Cymru, mae 'na pethau dda ei fod hi wedi gyhoeddi ei bwriad i ymgeisio. Yn gyntaf wrth gwrs, mae'n bosib i aelodau'r Blaid cynnal trafodaeth go iawn rwan bod rhywun arall heb law am Dafydd Elis-Thomas wedi cyhoeddi bwriad i ymgeisio.

Rheswm arall y bydd o les i'r trafodaeth ydi'r ffaith bod Elin wedi son am annibyniaeth. Er fy mod i yn personol yn credu ddylwn ni cael fwy o pwerau er fwyn profi i pobol Cymru mae'n posib i'r Cymry rhedeg Cymru'n well 'na San Steffan cyn trafod annibyniaeth ar lefel cenedlaethol, dwi'n falch fod mae'r gair "annibyniaeth" hefo cyfle i ddod i fewn i'r ddadlau drost y misoedd nesaf, oherwydd dwi'n teimlo mae rhaid i'r Blaid fod ychydig fwy onest am y ddyfodol mae nhw eisio i Gymru.

Grwpiau Rhanbarthol Llywodraeth lleol

Yn ol yr erthygl canlynol o'r wefan y BBC: http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9570000/newsid_9577500/9577564.stm mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu ad-drefnu llywodraeth lleol fewn i chwe rhanbarth gwahanol a wneith rhannu cyfrifoldeb mewn meusydd megis addysg a gofal cymdeithasol.

Rwan 'ta, er gwaetha'r ffaith mai ddim ond braslun yw'r cynllun, ac dwi yn cytuno mae rhaid ad-drefnu llywodraeth lleol i raddfau, dwi'n teimlo y mae'r cynllun presennol yn un wael dros ben a wneith, fel sydd yn cael ei nodi yn yr erthygl, creu dryswch ymysg y cyhoedd ynglyn ag atebolrwydd am polisiau gwahanol. Er enghraiff, yn rhanbarth y gogledd, sut wneith hyn effeithio ar addysg cyfrwng Cymraeg os oes rhaid i cyngor Sir Fon cyd-weithio gyda cyngor Sir y Fflint, neu sut wneith iechyd cael ei effeithio os oes rhaid cael polisi gyffredin.

Credaf efallai bysaf o'n syniad ystyried rhywbeth yn debyg i'r drefn roedd yn bodoli rhwng y 70au a 1996 (gyda ambell i newid, e.e. cynghorydd dinasoedd ar wahan.) Credaf y fantais fwyaf hefo ffasiwn drefn bysaf lleihau'r rhanbarth gogleddol, sydd, yn ol y braslun, yn rhy eang yn fy marn i.

Ond, ar y cyfan, bydd rhaid i ni gyd aros er fwyn gweld sut wneith y cynlluniau ddatblygu.