Wednesday 31 August 2011

Adolygiad: Parallel Text: Nouvelles en Francais.

Dwi wedi bod yn ddarllen yr llyfr hwn yn ddiweddar am rhesymau weddol debyg i fy rhesymau drost darllen "A Little Book of Language" gan David Crystal, h.y. diddordeb. Yn ogystal a ddiddordeb yn Ieithyddiaeth, dwi wedi ymddiddori yn yr iaith Ffrangeg ers imi ddechrau ei ddysgu fel 3ydd iaith ar ol imi ddechra yn yr ysgol uwchradd.

Erbyn hyn wrth gwrs dwi newydd wedi darfod fy astudiaeth o'r iaith Ffrangeg yn y prifysgol eleni, ac felly, yn gyntaf, dyma'r llyfr delfrydol (ar hyn o bryd) i helpu fi cadw'r sgiliau ieithyddol dwi wedi datblygu drost y flynyddoedd. Hefyd, dwi'n rhywun sydd yn hoffi ddarllen llyfrau, ac dyma'r llyfr gyntaf yn Ffrangeg dwi wedi llwyddo brynu hyd yn hyn, gan nag oes modd cael hyd i llyfrau sydd wedi eu sgwennu yn yr iaith Ffrangeg yma yng Nghymru yn hawdd iawn (felly, os oes 'na rhywun sydd yn gwybod ble fedrai ffeindio rhagor o lyfrau yn yr iaith hon, byswn i'n wir yn werthfawrogi'r cymorth.)

Cyn bellad a mae'r straeon yn y cwestiwn, straeon fer ydi nhw gyd (heb law am 1, yn fy marn i mae'r un yma fwy fel nofel fer.) Mae hyn yn ddefnyddiol iawn ar y cyfan. Rhywbeth arall sydd yn defnyddiol iawn ydi'r cyfieithiad Saesneg sydd ar y tudalen gyferbyn i'r un Ffrangeg, er dwi'n trio peidio defnyddio nhw mor gymaint, ond mae'n anoddach peidio gwneud wrth i'r straeon fynd yn fwy cymhleth cyn bellad a mae'r iaith anoddach yn y cwestiwn.

Felly, ar y cyfan, er mae gan y straeon tueddiad ar y cyfan i cael diweddglo weddol tywyll a negyddol, er gwaethaf hyn, teimlaf mae'r llyfr hwn yn defnyddiol ar gyfer myfyrwyr yr iaith Ffrangeg sydd eisio gwella eu sgiliau darllen ac ysgrifennedig.

Monday 29 August 2011

Adolygiad: A Little Book of Language, gan David Crystal.

Gan fy mod i'n ymddiddfori mewn Ieithyddiaeth, ddaru fi ffeindio'r llyfr hwn yn ddiddforol dros ben ar y chyfan.  Yn ogystal, teimlaf mae'r llyfr hwn yn ddigon ysgafn hefyd i ddenu sylw a chadw ddiddfordeb pobl sydd ddim wrth rheswm hefo chefndir academaidd mewn Ieithyddiaeth. Felly dda iawn David Crystal!

O'r pennodau ble ddaru'r awdur esbonio sut mae babanod a phlant ifanc yn ddysgu ieithoedd wahanol, ddwyieithrwydd yn ogystal a hanes ddatblygiad iaith fel rydan ni'n ei nabod hi heddiw a ddatblygiad sgwennu mewn sawl ieithoedd, mae yna sawl pennodau'r llyfr wneith ddenu sylw ei ddarllenwyr am nifer o rhesymau gwahanol.

I fi yn personol, mae'r pennod terfynnol, sydd yn ymdrin a'r agweddau gwahanol o byd ieithyddol pobl, mae'r awdur yn rhestru 6 o bethau wahanol sydd efallai yn berthnasol i pobl wahanol. O safbwynt finnau, mae'r pwyntiau ynglyn a'r pwysicrwydd o ddysgu ieithoedd gwahanol, yn ogystal a'r pwyntiau sydd yn ymdrin a ieithoedd sydd o fewn beryg o farw allan, a ieithoedd lleiafrifol. Mae'r 2 bwynt olaf yn bwysig dros ben i fi gan ystyried fy mod i eisio ddilyn gyrfa yn y maes Polisi a Chynllunio Ieithyddol yma yng Nghymru.

Felly, i gloi, dwi'n teimlo mae'r llyfr hwn yn sicr yn werth ddarllen os oes ganddoch chi ddiddfordeb mewn agweddau wahanol o ieithyddiaeth ac iaith yn gyffredinol.




Saturday 27 August 2011

Rhaglenni'r Haf ar S4C a ddysgwyr.

Ar y cyfan, mae adegau pryd dwi eisio adolygu rhaglenni S4C yn brin iawn, ond, o rhan rhaglenni ar gyfer ddysgwyr, dwi'n teimlo fel mae rhaid rhoi rhywfaint o sylw i'r rhaglenni unigol sydd wedi cael eu ddarlledu drost yr Haf eleni.

Cystadleuaeth Ddysgwyr Y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol. Er fy mod i eisioes wedi sgwennu post yn ddymuno llongyfarchiadau i enillydd y cystadleuaeth eleni, dwi eisio nodi fy mod i'n teimlo mae'r cystadleuaeth hon yn un arbennig o dda i ddangos bod mae gen pobl ddifordeb mewn ddysgu'r iaith i safon uchel iawn (ac ei fod hi'n bosib ei ddysgu i safon uchel), ac o safbwynt finna fel Cymro-Cymraeg, mae'n calonog iawn i gweld y ffasiwn pobl yn ceisio ddysgu'r iaith, ac dwi'n gobeithio fydd nifer fawr o pobl yn bwrw mlaen gyda ddysgu'r iaith.

Cariad@Iaith: Cyfres arbennig o dda ar y cyfan ac rydw i'n gobeithio'n fawr wneith S4C penderfynnu i gynhyrchu cyfres yn flynyddol. Rydw i'n meddwl roedd y tiwtoriad yn rhagorol ac roedd y "celebs" yn brwd iawn. Mae'n calonog iawn unwaith eto i weld bod mae yna mor gymaint o ewyllus dda tuag at yr iaith yn ogystal a'r ffaith bod mae pobl o chefndiroedd wahanol yn fodlon ei ddysgu.

Welsh in a Week: Unwaith eto, cyfres arbennig o dda sydd yn ddangos bod mae yna nifer sylwyddol o pobl sydd yn awyddys i ddysgu'r iaith, nid er fwyn cwbwlhau tasgau'r wythnos yn unig ond, yn achos y cyfweliadau hefo ddysgwyr rhugl, mae'n calonog iawn ar y cyfan i weld pobl sydd yn mor fodlon i ceisio ddysgu'r iaith.

Ar y cyfan felly, dwi'n teimlo fel mae rhaglenni a'r ddigwyddiadau fel yr uchod yn werthfawr iawn, nid yn unig i ddysgwyr, ond er fwyn gadael i Cymry-Cymraeg rhugl gwybod y mae yna pobl sydd yn fodlon ddysgu'r iaith. Yn ogystal, teimlaf mae'r rhaglenni'n hysbysebiad dda i'r iaith ar gyfer pobl ddi-Gymraeg sydd efallai eisio ei ddysgu (ond, os felly, teimlaf efallai fydd rhaid hysbysebu nhw yn y ddyfodol ar sianeli megis BBC 1 a 2 ac ITV er fwyn ddenu fwy o bobl i gwylio nhw.)   




Thursday 25 August 2011

Canlyniadau: TGAU

Hoffwn ddymuno llongyfarchiadau i bawb sydd wedi llwyddo heddiw, yn enwedig gan ystyried y chynydd sydd wedi bod mewn canran y ddisgyblion llwyddiannus. Er gwaethaf hyn, teimlaf mae rhaid i ysgolion ledled Cymru, yn ogystal a Llywodraeth Cymru, gwneud rhagor er fwyn cau'r bwlch sydd eisioes yn bodoli rhwng bechgyn a merched o ran y canlyniadau gorau, yn ogystal a'r bwlch rhwng Cymru ac ar ochr arall o glawdd Offa.

Ond, mae yna rhywbeth tydw i ddim yn ddeall yn iawn ynglyn a'r canlyniadau'r flwyddyn hon. Yn ol yr erthygl yma o golwg360: http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/47729-tgau-llai-yn-astudio-ieithoedd mae yna pethau diddforol yn cael ei nodi ynglyn a Cymraeg a gwyddoliaeth. Yn gyntaf, sut ydi o'n bosib i gynydd bodoli yn nifer ddisgyblion sydd yn sefyll arholiadau Gwyddoniaeth os mae'r pwnc yn un craidd, ac felly mae rhaid i pob ddisgybl sefyll arholiad yn y pwnc? Yn ogystal, sut fedrith 'na bod cwymp yn y nifer sydd yn sefyll arholiadau Cymraeg (iaith 1af ac ail iaith) os mae'r pwnc wedi bod yn pwnc ar amserlen ysgol pob ddisgybl ers 1999? 

Monday 22 August 2011

Addysg ddwyieithog? Yr iaith Gymraeg yn y Fro Gymraeg

Ar ol imi ddarllen 2 flog yr oedd yn trafod y pwnc yma heddiw, teimlaf fel dylswn i ysgrifennu am fy mhrofiad i o dderbyn addysg "ddwyieithog" yn Gwynedd.

I gychwyn, mae rhaid i fi nodi er fy mod i am son am y ffaith nad ydi ysgolion, yn fy marn i, yn gwneud digon i sicrhau bod plant o gartrefi Saesneg eu iaith yn dod yn rhugl yn y Gymraeg, (ond, ar y llaw arall maent yn gwneud popeth posib i sicrhau bod y Cymry Cymraeg yn ddwyieithog) mi oeddwn i'n un o'r disgyblion roedd yn dod o aelwyd Saesneg am rhesyma weddol cymleth (er, mae gen i aelodau'r teulu sydd yn Cymry Cymraeg, ac sydd wedi synnu faint mor rhugl ydw i.) Roeddwn i'n teimlo roedd rhaid i fi dysgu sut i siarad yr Gymraeg yn rhugl o'r ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol, rhywbeth sydd amwn i yn brin iawn y dyddiau hyn yn y Fro Gymraeg.

Yn yr ysgol gynradd (Ysgol Tan Y Castell yn Harlech) roedd y ddisgyblion yn ddysgu y Gymraeg y weddol dda ar y cyfan ond am rhyw reswn, doedd ganddynt ddim hyder i siarad yr iaith tu allan i'r ystafell dosbarth, ond dwi'n teimlo roedd hyn oherwydd y ffaith roedd athrawon yn cyfnod allweddol 2 yn rhoi gormod o bwyslais ar y Saesneg. Credaf roedd hyn yn golygu er ddoth y plant o gartrefi Cymraeg yn rhugl iawn yn y Saesneg, doedd y gyferbyn ddim yn wir o bellffordd.

Yn yr ysgol uwchradd (Ysgol Ardudwy, Harlech) unwaith eto, dwi'n teimlo roedd yna gormod o bwyslais ar y Saesneg, er roedd yr ysgol i fod yn ysgol ddwyieithog roedd dim on 50-70% o'r ddisgyblion yn medru siarad y Gymraeg (ond mi oedd yna'r ddiffyg hyder defnyddio'r Gymraeg yn bodoli unwaith eto gan doedd staff yr ysgol ddim yn annog ehangu'r defnydd o'r Gymraeg ymysg y ddisgyblion tu allan i wersi Cymraeg). Roedd yna nifer o staff ddysgu doedd methu siarad Gymraeg o gwbwl, neu oedd hefo Cymraeg wael iawn (nifer sydd wedi, yn ol y son wedi cynyddu yn diweddar.) Roedd hyn yn olygu doedd hi ddim yn posib astudio Hanes er engraifft trwy gyfrwng y Gymraeg (mae pennaeth newydd yr adran Hanes yn siarad y Gymraeg fel mamiaith erbyn hyn). Yn ogystal, pryd doth y brofion statudol ym mlwyddyn 9, roedd yna prinder o papurau prawf yn y Gymraeg roedd yn olygu roedd rhaid imi wneud y prawf yn Saesneg, er roeddwn i wedi astudio'r pwnc yn gyfan gwbwl trwy'r Gymraeg ynghynt.

Ddaru hyn golygu ges i fy ngorfodi i astudio'r pwnc trwy'r Saesneg am sbel ond ar ol rhywfaint o dadlau hefo'r staff ddaru fi ail-ddechra astudio'r pwnc yn y Gymraeg. Yn ogystal, yn flynyddoedd 10 ac 11, yn ambell i pwnc "dwyieithog" roedd y trafodaeth i gyd yn Saesneg gan roedd yna lleiafrif doedd methu siarad Cymraeg.

Felly, ar ol edrych ar fy mhrofiadau addysgiadol, dwi'n credu'n gryf mae rhaid i fwyafridd llethol o ysgolion yn Gwynedd o leiaf (heb law am ysgol Friars ym Mangor)  bod ysgolion penodedig Cymraeg, yn enwedig gan ystyried y Seisnigeiddio sydd wedi digwydd dros y flynyddoedd sydd yn golygu does yna ddim modd yn y fwyafrif o lefydd yn y Sir (a'r Fro Gymraeg yn gyffredinol) ble geith plant di-Gymraeg ddod yn rhugl trwy "osmosis." Felly, dwi'n teimlo mae rhaid i ysgolion gynradd ac uwchradd (yn ogystal a'r canolfannau iaith) gwneud fwy o ymdrech i drochi plant yn yr iaith Gymraeg gan, yn fy marn i, wrth ystyried y cyfryngau, yn enwedig teledu, y we, cerddoriaeth poblogaidd yn ogystal a poblogrwydd diwilliant Eingl-Americanaidd, does ddim modd yn 2011 i plentyn Cymraeg iaith gyntaf yn y Fro Gymraeg osgoi ddysgu Saesneg, felly, er mae rhaid cynnal wersi Saesneg yn yr ysgol er fwyn ddysgu'r iaith safonol i'r plant, teimlaf mae rhaid rhoi llawer fwy o bwyslais ar y Gymraeg yn y sector cynradd ac uwchradd yn y Fro Gymraeg.     

Thursday 18 August 2011

Canlyniadau

Hoffwn heddiw i ddymuno pob lwc a llongyfarchiadau ar gyfer pawb sydd yn cael eu chanlyniadau lefel A heddiw. Er fy mod i wedi graddio erbyn hyn dwi'n cofio sut roeddwn i'n teimlo pedair flynedd yn ol yn glir iawn. Felly llongyfarchiadau a phob lwc ar gyfer y dyfodol.

Tuesday 16 August 2011

Trefn lleoliadau'r Eisteddfod Genedlaethol

Yn gyntaf, hoffwn nodi mi fyddai'n trio flogio ychydig fwy rheolaidd o hyn ymlaen, ac yn ogystal, hoffwn nodi os oes yna camgymeriadau sillafu/treiglo yn y postiau, mae hynny oherwydd dwi heb wedi ysgrifennu yn y Gymraeg yn rheolaidd ers imi gadael ysgol chwe mlynedd yn ol.

Ta waeth, prif pwnc y post heddiw ydi drefn lleoliadau'r Eisteddfod Genedlaethol o'r un flwyddyn i'r llall. Ar y cyfan dwi'n meddwl mae'r system o symud o'r gogledd i'r dde un flwyddyn ar ol y llall yn system teg, ac felly dwi ddim yn ddeall y rhesymeg dros cynnal yr Eisteddfod yn y de am ddwy flynedd un ar ol y llall (h.y. 2014/15 Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy.)

Rwan 'ta, wrth gwrs mae'n hollol deg i Sir Gar cynnal yr Eisteddfod y flwyddyn ar ol Sir Ddinbych, er fwyn cadw at yr drefn trafodiadol, ac wrth gwrs mae'n peth dda ar gyfer Cymreictod yr ardal os mae Sir Fynwy'n fodlon cynnal yr Eisteddfod, ond ar yr un adeg, dwi'n meddwl ei fod o'n anheg ar siroedd y Gogledd (Sir Fon a Chonwy) sydd heb wedi cynnal yr Eisteddfod drost y degawd ddwythaf.

Wrth gwrs, os oes yna rhesymau ariannol sydd yn olygu fysaf o'n amhosib i'r ardaloedd y nodwyd cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol, mae hynny'n hawdd i'w ddeall ac os felly, teimlaf bysaf o'n mond yn deg felly i'r Eisteddfod cael ei chynnal yn y Canolbarth (h.y. Ceredigion neu Powys.) Fy rhesymeg drost hyn ydi tydi'r un awdurdod na'r llall wedi cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddiweddar chwaith (er mae Ceredigion wedi cynnal Eisteddfod yr Urdd, ac felly efallai mae Powys ydi'r ddewis doeth.) Yn ogystal wrth gwrs efallai fysaf o'n fwy cyfleus o ran teithio ar gyfer pobol y gogledd a'r de  tasa'r Eisteddfod yn dod i'r Canolbarth.



Friday 5 August 2011

Addysg Gymraeg yn "anfantais academaidd a chymdeithasol"!!!

Ddaru'r erthygl yma o golwg360:   http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/46025-gwario-arian-cyhoeddus-i-osgoi-addysg-gymraeg neud i mi teimlo'n mor flin fel roeddwn i'n teimlo roedd rhaid imi sgrifennu rhywbeth.

Yn gyntaf, yn sicr, mae'n gywilyddus bod yr RAF yn defnyddio pres trethdalwyr er mwyd anfon 52 o blant i ysgolion preifat ym Mangor, ond teimlaf bod y rhesymeg yn waeth fyth. Hynny yw, ei fod nhw'n meddwl mae addysg ddwy-ieithog yn anfantais addysgiadol a chymdeithasol!! Dwi'n meddwl mae Llyr Huws Gruffydd yn gwbwl gywir ynglyn a'i ymateb. Ac yn sicr, credaf mae'r RAF yn gwbwl hyrt yn aros mewn lefydd Gymraeg eu iaith os oes ganddynt nhw problemau hefo polisiau addysgiadol y sir.

Simon yn ddangos arweinyddiaeth yn barod?

Dwi newydd wedi edrych ar yr erthygl canlynol o wefan golwg360: http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/45935-galw-am-ddatganoli-pwerau-dros-yr-heddlu ac mae'n edrych yn debyg imi bod, wrth son am petha megis ddatganoli pwerau drost yr heddlu, carchardai ayyb, mae Simon Thomas yn ddangos ei gallu i trafod materion weddol pwysig, yn ogystal a'i allu i arwain trafodaeth ar y pynciau hyn. Arwydd bod y fo fydd dewis clir i arwain y Blaid y flwyddyn nesaf efallai?    

Dysgwr y Flwyddyn 2011

Llongyfarchiadau i Kay Holder am lwyddo yn y cystadleaeth y flwyddyn hon. Ond mae'n rhaid i mi dweud, er yn amlwg roedd hi'n heuddu ennill, dwi'n ofni wneith hyn rhoi'r argraff anghywir i pobol sydd yn bwriadu dysgu'r iaith, h.y. wneith pobol dechra meddwl fod yr unig fath o pobol sydd yn medru dysgu'r Gymraeg ydi rhai sydd eisioes wedi lwyddo i ddysgu dwy neu tair iaith yn lwyddianus cyn symud ymlaen i'r Gymraeg, ond efallai fy mod i'n anghywir.

Ta waeth, llongyfarchiadau unwaith yn rhagor Kay!