Thursday 21 May 2015

Dyma fi, ar ôl bron i 3 blynedd o absenoldeb

Dyma fi wedi ddychwelyd ar ôl peth amsar. Mae 'na amryw o rhesymau pam, ond mi fyddaf yn ceisio ail-gydio ar y blog, rŵan bod petha 'di tawelu rhywfaint yn fy mywyd addysgiadol a phersonol.

Mi fyddaf yn edrych ar yr un hen bynciau, ieithoedd tramor, llenyddiaeth, ac wrth gwrs, gwleidyddiaeth. Gobeithio caf sgwennu rhywbeth dros y penwythnos.

Hwyl am y tro!

Wednesday 27 June 2012

Amcangyfrif ystadegol o'r canran o siaradwyr y Gymraeg yng Nghymru fesul ardal

Hyd yn hyn, tydw i heb wedi gweld unrhyw amcangyfrifoedd ystadegol o ffigyrau 2011, ac fel myfyriwr Polisi a Chynllunio Ieithyddol, yn ogystal a rhywun sydd yn byw yn Wynedd, mae ffigyrau o'r fath yn bwysig dros ben imi. Gan ystyried sawl ffynhonell, mi fyddaf yn ceisio amcangyfri'r canran ar gyfer siaradwyr y Gymraeg yng Nghymru fesul sir. Wrth imi ceisio rhoi canran ar gyfer pob sir unigol, mi fyddaf yn ystyried sawl ffynhonell megis Adroddiad Cyfrifiad 2001, Higgs et al 2004, Darlyn ystadegol y Gymraeg cafodd ei gyhoeddi eleni, ffigyrau'r Comisiynydd yn ogystal a adroddiad blynyddol Strategaeth addysg Cyfrwng Cymraeg 2010/11.

Sir Fon: 60-60.9% Wrth imi ystyried ffactorau megis addysg (cynydd asesiadau iaith 1af), allfudo a mewnfudo, yn ogystal a sut mae'r ffigyrau wedi newid ers 1981, mae'r ffigyrau hyn i weld fel y rhai fwyaf tebygol.

Blaenau Gwent: 12-15% Wrth imi ystyried y effaith posib o addysg cyfrwng Cymraeg (1 ysgol) Cymraeg fel ail iaith yn pwnc gorfodol hyd at 16, a'r effaith posib ar ffigyrau yn sgil hynny, y cynnydd rhwng 1991 a 2001 yn ogystal a allfudo, dyma'r ffigyrau sydd yn erdych fwyaf tebygol yn fy nhyb i.

Penybont ar Ogwr: Wrth imi ystyried y ffactorau eithaf tebyg i'r rhai ym Mlaenau Gwent, yn ogystal a agoriad Ysgol Gyfun Llangynwyd a'r newid ystadegol rhwng 1981-2001, dwi'n meddwl bydd y ffigyrau o gwmpas 12.9-13%

Caerffili: Gan ystyried y twf sylweddol yn y sector addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal yn bennaf, credaf mi fydd y ffigwr o gwmpas 15.9-17%

Caerdydd: Y ffactorau amlwg i ystyried fan hyn yn fy nhyb i yw Cymry-Cymraeg yn mewnfudo yno o ardaloedd eraill o Gymru yn ogystal a'r twf sylweddol yn poblogrwydd addysg cyfrwng Cymraeg. Ac felly, credaf fydd y canran rhywle o gwmpas 16-18%

Sir Gar: Yn anffodus, er gwaethaf twf poblogrwydd addysg cyfrwng Cymraeg yn y Sir ac felly fydd y canrannau ymysg pobl o dan 18 yn cynyddu, credaf mae yna beryg, yn sgil allfudo/mewnfudo fydd y ffigwr wedi gostwng o dan 50% ella 48-9%.

Ceredigion: Yn sgil patrymau tebyg i Sir Gar, credaf fydd y canran wedi gostwng unwaith yn rhagor (45%?) Ond, mi fydd o grwpiau oedran o dan 18 yn weld cynnydd bach decin i.

Conwy: Efallai fydd yna cynnydd yn y niferoedd yma yn sgil addysg, ond mi fydd yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn anffodus, yn weld gostyngiad yn sgil mewn- ac allfudo (30% ar gyfer y Sir cyfan.)

Sir Dinbych: Yr un hanas a Chonwy mae arnai ofn, am rhesymau tebyg, ond mi fydd yna gynydd (28%?)

Sir y Fflint: Mae pethau i weld wedi bod yn eithaf sefydlog yma ers 1981, ac felly credaf fydd yna cynnyd bach iawn yn unig (14.8-15%)

Gwynedd: Efallai yn sgil addysg mi fydd yna gynnydd, ond dwi ddim yn hollol sicr felly credaf gall y canran bod unrhywbeth rhwng 65-71% Ond cyn belled ar mae fy milltir sgwar i yn y cwestiwn (Harlach) credaf, yn sgil yr holl mewnfudo + Cymry Cymraeg yn siarad Saesneg i'w phlant fydd y canran wedi gostwng o 56% i oeddetu 48%. :(

Merthyr Tudful: Gan bod yr sefyllfa yn yr sector addysg Cymraeg wedi bod yn eithaf sefydlog, yn ogystal a effeithiau megis allfudo, credaf fydd y canran o gwmpas 11-12%

Sir Fynwy: Yn sgil twf addysg Cymraeg, credaf fydd y canran rhwng 12-15%

Castall Nedd Port Talbot: Er gwaethaf twf addysg Cymraeg, fydd wedi rhoi hwb i'r ffigyrau, credaf fydd ardaloedd Cymraeg y sir wedi gweld gostyngiad (yn sgil allfudo a rhieni'n gwrthod trosglwyddo'r iaith yn fy marn i), ac felly fydd y canran oeddetu 18%

Casnewydd: Yn sgil ffactorau debyg i weddill y de dwyrain (ond twf mewn addysg Cymraeg yn bennaf) credaf fydd y canran o gwmpas 14-15%

Sir Benfro: Unwaith yn rhagor, fydd y sector addysg Cymraeg wedi rhoi hwb i'r ffigyrau, ond credaf fydd yna gostyngiad wedi bod yn gogledd y sir am rhesymau tebyg i weddill y Fro Gymraeg (24.5-25%)

Powys: Gostyngiad yn ardaloedd Cymraeg, ond mi fydd cynnydd fel arall (21.8-22%)

Rhondda Cynon Taf: Yn sgil twf addysg Cymraeg, yn ogystal a Cymry Cymraeg yn symud i ardaloedd ger Caerdydd (Ffynnon Taf a Phentref Eglwys er enghraifft) credaf fydd y canran o gwmpas 15.3%

Abertawe: Credaf mi fydd yna cynnydd yn sgil addysg Cymraeg, ond fydd ardaloedd Cymraeg y gogledd (ee Mawr) wedi gweld gostyngiad, felly 13.8-14%

Torfaen: Am rhesymau tebyg i Gwent yn gyffredinol, credaf fydd twf mawr wedi bod (16-18%)

Bro Morgannwg: Am rhesymau tebyg i Gaerdydd a Rhondda Cynon Taf, credaf fydd y canran wedi codi at tua 15%

Wrecsam: Unwaith yn rhagor, diolch i addysg, credaf fydd y ganran wedi codi mymryn (14.8-15%)

Felly yn sgil y ffigyrau hyn, mae'n glir imi mae y petha fwyaf sydd hefo'r gallu i achub y Gymraeg yn y dyfodol, yn enwdig yn y Fro Gymraeg, fydd trosglwyddo iaith cynnyddol (rhaid addysgu rhieni/ddarpar rhieni am y fanteision), addysg Cymraeg yn y Fro (nid y lol ddwyieithog 'ma sydd, yn fy mhrofiad i mond yn sicrhau bod Cymry Cymraeg yn ddwyieithog) a swyddi hefo cyflogau da fydd yr unig petha hefo'r gallu i achub y Gymraeg yn cymunedol ac yn genedlaethol (ond wrth gwrs credaf mae rhaid canolbwyntio ar y Fro yn bennaf.) 

Hoffwn clywad sylwadau ac amcanfyfrifoedd pobol eraill. 
  

Wednesday 20 June 2012

Cenedlaetholwr Llydaweg yn ennill sedd yn senedd Ffrainc

Hoffwn ymestyn pob dymuniad dda i Paol Molac, y Cenedlaetholwg Llydaweg gyntaf erioed i ennill set yn Senedd Ffrainc. Rydwyf yn obeithiol, yn sgil y datblygiad yma y fydd hi'n bosib i'r UDB ennill rhagor o seddi yn y dyfodol, ac, ella, llwyddo i gael rhywfath o ddatganoli ar gyfer Llydaw.

Yn ogystal, yn sgil ymrwymiad Francois Hollande i arwyddo'r Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Lleiafrifol, dwi'n gobeithio y fydd Paol yn gallu sicrhau hawliau tecach i siaradwyr y Llydaweg yn Llydaw.

Pob hwyl Paol!

Tuesday 19 June 2012

Gwaharddiad ar bobl ifanc o dan 16 oed gyda'r nos ym Mangor: Trafodwch.

Ar ol imi clywed am yr ddatblygiad yma, mae rhaid imi cyfaddef roeddwn i'n meddwl yr oedd hi'n joc ffol Ebrill hwyr. Ond, ar ol y noson gyntaf wrth gwrs dwi'n ddeall yn iawn mae nid tynnu coes oedd hwn.

Yn gyntaf, mae rhaid gofyn, oes yna problemau go iawn ym Mangor a'u hienctid gyda'r nos? Ar ol imi astudio yno am 5 mlynedd rhwng 2007-12, mae rhaid imi cyfaddef, fy mod i heb wedi sylweddoli ar ddim byd yn debyg i ymdygiad gwrth-cymdeithasol, yn sicr nid o'r fath a sydd yna yn fy milltir sgwar (Harlech.) Felly, yn y bon, heb fy mod i'n dyst ar ynrhyw ymdygiad negyddol oddi ar plant a phobl ifanc, dwi'n meddwl mae'r mesurau hyn yn braidd yn eithafol.

Yn ogystal, mi rydw i'n wybodol nad ydi'r mesurau hyn yn perthnasol os yw'r plentyn/plant o dan 16 oed mewn cwni rhywun hyn, ond teimlaf mae rhaid gofyn, a yw pobl yn ymyrryd lle does ddim rhaid? Yn sicr roeddwn i'n cymryd hi'n ganiataol, ar ol bod yr un oed a'r pobl dan sylw mai gyda'r rhieni oedd y gair olaf ar faint o gloch roedd rhaid i blant dod adra gyda'r nos (roedd rhaid imi'n sicr bod yn fy ngwely erbyn 9 o'r gloch y nos ar noson ysgol, a doedd yna ddim modd mynd allan ar noson ysgol ta beth), ac yn sicr, teimlaf y rhieni sydd hefo'r cyfrifoldeb o ddisgyblu eu phlant eu hunain.

Felly, wrth cymryd y mesurau hyn, a yw'r awdurdodau yn cymryd un cyfrifoldeb craidd oddi ar rhieni? Ydi'r mesurau hyn yn dystiolaeth nad yw'r awdurdodau heb ddim hyder o gwbl yn gallu rhieni Bangor i chadw rheolaeth o'u phlant? Amser a ddengys sut fydd y mesurau hyn yn gweithio.

Thursday 14 June 2012

Dysgu Ieithoedd Modern yn ysgolion cyfrwng Cymraeg?

Wedi imi ddarllen disgrifiad o ysgolion Diwan (ysgolion cyfrwng Llydaweg yn Llydaw) fan hyn, wrth ystyried y ffordd mae'r ysgolion hyn yn cyflwyno sawl iaith i'r ddisgyblion, dwi'n meddwl bod hyn yn sonio fel rhywbeth gall Llywodraeth Cymru/cynghorau sir cyflwyno yn eu hysgolion cyfrwng Cymraeg/naturiol Cymraeg er fwyn hybu sgiliau amlieithrwydd cyn i ddisgyblion dechrau eu haddysg yn yr ysgol uwchradd.  Wrth imi edrych ar y dull mae ysgolion Diwan yn eu defnyddio, credaf dyma ffordd o efallai cyflwyno ieithoedd modern yn ysgolion gynradd:

Meithrin/Dosbarth derbyn/Cyfnod Sylfaen: Cymraeg yn unig (cadw at y drefn presennol)
Blwyddyn 3: cyflwyno Saesneg fel pwnc yn unig OND nid fel cyfrwng dysgu (fel sydd yn digwydd yn ysgolion 'naturiol' Cymraeg)
Blwyddyn 5: Credaf erbyn hyn, gan ystyried yr oes sydd ohoni, y bydd pob plentyn yn rhugl yn Saesneg, ac felly efallai y cyfnod hwn byddai'r cyfnod gorau i cyflwyno iaith newydd am rhwng 1-2 awr yr wythnos tan iddynt cychwyn yn yr ysgol uwchradd.
Ysgol uwchradd: 5 awr o wersi iaith modern yr wythnos. Ar gyfer y ddisgyblion sydd yn ddangos gallu ieithyddol da, credaf y dylid cyflwyno iaith modern arall yn ystod Blwyddyn 8.
TGAU: Angenrheidiol i barhau hefo o leiaf un iaith dramor (felly Cymraeg Iaith Gyntaf, Saesneg + iaith Ewropiaidd)

Rwan 'ta, efallai eich bod chi'n meddwl hyd yma "I be 'dan ni eisio gwneud hyn pryd mae hi'n ddigon o frwydr ceisio ddwyn perswad ar blant i siarad Cymraeg yn ein hysgolion ac i sicrhau eu fod yn rhugl eu Gymraeg?" ac i raddfau dwi'n cytuno a'r safbwynt hyn. Ond, clywais i y llynedd (mis Tachwedd/Rhagfyr) bod ysgolion cyfrwng Basgeg yn Wlad y Basg yn gwneud rhywbeth tebyg er fwyn ceisio ehangu gorwelion ieithyddol y blant ac i ceisio ddangos iddynt mae modd defnyddio ieithoedd eraill heb law am Sbaeneg/Ffrangeg. A chredaf dyna beth mae'r ysgolion Diwan yn ceisio gwneud wrth cyflwyno sawl iaith ychwanegol i'r plant, er fwyn ddangos iddynt mae modd siarad ieithoedd eraill heb law am Ffrangeg er fwyn cyfarthrebu. Ond wedyn, mae rhaid ystyried pa ieithoedd i gyflwyno i'r ddisgyblion (a'u diddfordeb yn yr iaith honno a diwylliant y gwlad/gwledydd dan sylw), ac wrth gwrs mae agweddau'r rhieni/athrawon tuag at ieithoedd neu'r gwledydd ble mae'r iaith honno'n cael ei siarad sydd yn mynd i cael effaith mawr ar agwedd y plant (rhywbeth, yn fy marn i wnaeth cyfrannu'n sylweddol at agweddau gwrth-Ffrangeg/Cymraeg yn fy ysgol uwchradd i.) Ac wrth gwrs mae rhaid ystyried sut bysa'r iaith ychwanegol yma'n cael effaith ar gallu'r athrawon i gyflwyno'r cwriciwlwm cenedlaethol yn effeithiol (yn enwedig yr angen i ddysgu o leiaf 70% o'r cwricwlwm trwy'r Gymraeg, canran, yn fy marn i, dylsa'r awdurdodau codi i 80-85%). Ac wedyn wrth gwrs, rydw i'n cydnabod bod y gallu i gyflwyno ieithoedd modern yn dibynnol ar gallu ieithyddol yr athrawon, ac faint 'sa hyfforddi athrawon yn costio, neu'r costau o cyflogi aelod o staff yn arbennig ar gyfer dysgu Ffrangeg/Sbaeneg neu pwy bynnag iaith.

Wedi ddweud hynny, mi ydw i'n o blaid ail-gyflwyno cwrs craidd TGAU mewn o leiaf un iaith modern, efallai 'sa hynny'n helpu hybu sgiliau ieithyddol athrawon y dyfodol?

Yn ogystal, mae hi'n wrth gwrs amhosib i ragweld sut wneith iaith modern dylanwadu ar agweddau ddisgyblion tuag at y Gymraeg neu Saesneg hyd yn oed.

Felly, yn amlwg mae hyn yn mater llawn cymhlethtod, ac hoffwn gwybod beth mae pobl eraill yn meddwl a sut 'sa nhw'n diwygio'r awgrymiadau hyn.  

          

Wednesday 13 June 2012

Gwyliau Cymreig. Ydan ni'n eu ddathlu nhw, ac os felly sut?

Cofiais i neithiwr yr oedd hi'n Dydd y Dywysoges Gwenllian ddoe. Dwi'n gwybod ein fod ni, fel Cymry yn ddathlu gwyliau megis Dydd Gwyl Dewi, Dydd Santes Dwynwen, ac mae rhai ohonom yn teithio i Gilmeri adeg Rhagfyr 11 er fwyn cofio Llywelyn ap Gruffudd, ond a oes yna pobl sy'n dathlu Dydd y Dywysoges Gwenllian, ac os felly, sut?

Yn ogystal, hoffwn gwybod os, a sut y mae pobl yn dathlu gwyliau Cymreig megis Dydd Owain Glyndwr (16 o Fedi i'r rhai doedd ddim yn gwybod) a Diwrnod Rhyngwladol Twm Sion Cati. Mae'n difyr dros ben imi meddwl bod yna mor gymaint o wyliau Cymreig, ond does 'na ddim llawer o son i'w glywed am pwy sy'n ddathlu'r gwyliau hyn, na sut. Yn personol, teimlaf bod hyn braidd yn drist bod yna cynifer o gwyliau Cymreig yn mynd heibio bob blwyddyn heb fawr o sylw (ond, wedi ddweud hynny, does 'na byth llawer o sylw na chydnabyddiaeth yn cael ei roi i gwyliau megis Dydd Gwyl Dewi na Dydd Santes Dwynwen yn fy milltir sgwar i beth bynnag, felly ella na ddylwn i meddwl gormod am y lleill am y tro.)

Wedi meddwl am hynny, efallai ddylwn ni fel Cymry ceisio gwneud fwy o ymdrech i hybu rhai o'r gwyliau 'ma, nid yn unig er fwyn hybu Cymreigtod, ond hefyd teimlaf y fydd y gwyliau hyn (yn ogystal a'r iaith Gymraeg) yn gallu cyfrannu at hybu twristiaeth diwilliannol yn ein gwlad, rhywbeth sydd i weld yn ddigon prin hyd yn hyn. Gan ystyried faint o lwyddiant mae twristiaeth diwylliannol yn cael yn lefydd megis yr Alban, Iwerddon a Llydaw (a'r Wladfa hyd yn oed) credaf mae'n hen bryd i ni ceisio cymryd fantais o'r diwylliant a hanes sydd gennym ni.  

  

Tuesday 12 June 2012

Statws swyddogol a defnydd iaith: Cymru, Iwerddon a Gwlad y Basg

Rydw i newydd wedi ddarllen erthygl fan hyn ynglyn ag awydd Kontseilua (mudiad cywerth a CyI fama'n Nghymru) i ceisio sicrhau statws swyddogol i'r iaith Fasgeg yn Gwlad y Basg. Rwan 'ta, ar y cyfan, rydw i'n cefnogol a'r hyn maent yn ceisio cyflawni, ond mae gen i pryderon ynglyn a'u hawydd am statws swyddogol, gan ystyried pethau tebyg sydd wedi digwydd nes at gatra'. Yn ogystal, dwi ddim yn hollol sicr o sut maent am sicrhau'r fath statws o fewn gwladwriaeth ble, yn ol y Cyfansoddiad Sbaeneg, mae gan pob dinesydd y ddyletswydd i gwybod Sbaeneg, sydd yn awgrymu imi hyd yn oed tasa gen yr iaith Fasgeg statws swyddogol, fydd statws cyfansoddiadol Sbaeneg wastad yn golygu defnydd uwch o'r iaith honno gan fydd yr iaith Fasgeg yn llai pwysig o safbwynt y Genedl. Yn ogystal, credaf fydd y statws cyfansoddiadol yma yn golygu fydd ceisio sicrhau dyletswydd i gwybod Basgeg yn amhosib, ac yn sgil hynny, fydd ceisio "normaleiddio'r" Fasgeg i'r fath raddfau yn her uchelgeisiol dros ben.

Yn ogystal, mi ydw i'n poeni, er mae'r dogfen yn nodi pwysicrwydd pob haen o gymdeithas Gwlad y Basg wrth mynd ati i normaleiddio'r iaith, y dosbarth-canol ac nid y werin fydd yn elwa fwyaf. Drychwch ar Iwerddon fel enghraifft, er gwaethaf y statws swyddogol yn ol y cyfansoddiad, mae'r werin wedi parhau i raddfau helaeth i defnyddio Saesneg yn unig. Mae hyn yn awgrymu imi bod gor-derbyniaeth at statws swyddogol ac addysg heb bod hynny'n cael ei drosglwyddo i defnydd iaith cyson ar lefel cymunedol yn mynd i gwneud fwy o niwed na lles i pa bynnag iaith lleiafrifol sydd dan sylw (gan gynnmwys y Gymraeg.) Ac felly, er bod statws ac addysg yn pwysig, mae cefnogaeth a defnydd iaith oddi wrth pawb, o'r werin i fynnu at ac yn gynnwys y Llywodraeth yn pwysicach fyth.

Wrth imi ystyried sut mae statws y Gymraeg wedi ddatblygu o cyfnod y Deddfau Uno hyd heddiw, mae yna thema gyffredin. Deddfwriaeth sydd (yn bennnaf) wedi ei hanelu at Uchelwyr, ac wedyn y dosbarth canol (wrth i'r fath deddfwriaeth cynnig swyddi sector gyhoeddys i'r grwpiau hyn) ac yn gynnyddol yng Nghaerdydd heddiw, oedd llawer o'r ddeddfwriaeth hefo ddim diddordeb yn defnydd iaith y werin (heblaw am deddfau addysg y bedwaredd ganrif ar bymtheg decin i). Yn wir o 1536, ddaru o cymryd tan diwedd yr ugeinfed ganrif i'r Llywodraeth Prydeinig sicrhau bod pob Cymro yn medru Saesneg (oes gen unrhywun tystiolaeth i'r gwrthwyneb? Mae gen i diddfordeb arbennig yn siaradwyr uniaith y Gymraeg). Me hyn yn awgrymu imi, hyd yn oed hefo statws swyddogol, fydd hi'n cymryd sawl ganrif, os ddigwiddith o o gwbl yn anffodus i'r fwyafrif o Gymry dod yn ddwyieithog heb annogaeth defnydd ar lefel cymunedol tu allan i'r ystafell dosbarth efallai.

Felly, i gloi, er fy mod i'n edmygu ymdrechion Kontseilua i ceisio sicrhau statws swyddogol i'r Fasgeg, oherwydd mae gen statws swyddogol y gallu i bod yn hwb sylweddol i unrhyw iaith lleiafrifol, credaf mae'n hollbwysig i unrhyw mudiad sy'n ceisio hybu defnydd unrhyw iaith lleiafrifol ceisio canolbwyntio mwy ar cymunedau a phobl ifanc a cheisio annog nhw i defnyddio'r iaith a'i throsglwyddo i'r genhedlaeth nesaf, yn enwedig yn cadarnleoedd yr iaith, a dyna pam dwi'n cefnogi'r syniad o swyddi ble mae'r Gymraeg yn hanfodol (ee Radio Cymru, S4C, yn ogystal a'r sefydliadau eraill) cael eu chanoli yn ardaloedd ble mae'r iaith yn weddol gryf. Yn ogystal wrth gwrs mae angen fwy o dai fforddiadwy a fwy o resymau yn gyffredinol i annog siaradewyr i aros yn ardaloedd Cymraeg.

Ddrwg gen i am y rant, ac dwi'n edrych ymlaen at eich sylwadau. :)

O.N. Gyda llaw, dwi ddim yn gwrthwynebu statws swyddogol yn y gwledydd dwi wedi trafod, mond y diffyg canolbwyntio ar cymunedau a defnydd iaith ar lawr gwlad.