Wednesday 27 June 2012

Amcangyfrif ystadegol o'r canran o siaradwyr y Gymraeg yng Nghymru fesul ardal

Hyd yn hyn, tydw i heb wedi gweld unrhyw amcangyfrifoedd ystadegol o ffigyrau 2011, ac fel myfyriwr Polisi a Chynllunio Ieithyddol, yn ogystal a rhywun sydd yn byw yn Wynedd, mae ffigyrau o'r fath yn bwysig dros ben imi. Gan ystyried sawl ffynhonell, mi fyddaf yn ceisio amcangyfri'r canran ar gyfer siaradwyr y Gymraeg yng Nghymru fesul sir. Wrth imi ceisio rhoi canran ar gyfer pob sir unigol, mi fyddaf yn ystyried sawl ffynhonell megis Adroddiad Cyfrifiad 2001, Higgs et al 2004, Darlyn ystadegol y Gymraeg cafodd ei gyhoeddi eleni, ffigyrau'r Comisiynydd yn ogystal a adroddiad blynyddol Strategaeth addysg Cyfrwng Cymraeg 2010/11.

Sir Fon: 60-60.9% Wrth imi ystyried ffactorau megis addysg (cynydd asesiadau iaith 1af), allfudo a mewnfudo, yn ogystal a sut mae'r ffigyrau wedi newid ers 1981, mae'r ffigyrau hyn i weld fel y rhai fwyaf tebygol.

Blaenau Gwent: 12-15% Wrth imi ystyried y effaith posib o addysg cyfrwng Cymraeg (1 ysgol) Cymraeg fel ail iaith yn pwnc gorfodol hyd at 16, a'r effaith posib ar ffigyrau yn sgil hynny, y cynnydd rhwng 1991 a 2001 yn ogystal a allfudo, dyma'r ffigyrau sydd yn erdych fwyaf tebygol yn fy nhyb i.

Penybont ar Ogwr: Wrth imi ystyried y ffactorau eithaf tebyg i'r rhai ym Mlaenau Gwent, yn ogystal a agoriad Ysgol Gyfun Llangynwyd a'r newid ystadegol rhwng 1981-2001, dwi'n meddwl bydd y ffigyrau o gwmpas 12.9-13%

Caerffili: Gan ystyried y twf sylweddol yn y sector addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal yn bennaf, credaf mi fydd y ffigwr o gwmpas 15.9-17%

Caerdydd: Y ffactorau amlwg i ystyried fan hyn yn fy nhyb i yw Cymry-Cymraeg yn mewnfudo yno o ardaloedd eraill o Gymru yn ogystal a'r twf sylweddol yn poblogrwydd addysg cyfrwng Cymraeg. Ac felly, credaf fydd y canran rhywle o gwmpas 16-18%

Sir Gar: Yn anffodus, er gwaethaf twf poblogrwydd addysg cyfrwng Cymraeg yn y Sir ac felly fydd y canrannau ymysg pobl o dan 18 yn cynyddu, credaf mae yna beryg, yn sgil allfudo/mewnfudo fydd y ffigwr wedi gostwng o dan 50% ella 48-9%.

Ceredigion: Yn sgil patrymau tebyg i Sir Gar, credaf fydd y canran wedi gostwng unwaith yn rhagor (45%?) Ond, mi fydd o grwpiau oedran o dan 18 yn weld cynnydd bach decin i.

Conwy: Efallai fydd yna cynnydd yn y niferoedd yma yn sgil addysg, ond mi fydd yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn anffodus, yn weld gostyngiad yn sgil mewn- ac allfudo (30% ar gyfer y Sir cyfan.)

Sir Dinbych: Yr un hanas a Chonwy mae arnai ofn, am rhesymau tebyg, ond mi fydd yna gynydd (28%?)

Sir y Fflint: Mae pethau i weld wedi bod yn eithaf sefydlog yma ers 1981, ac felly credaf fydd yna cynnyd bach iawn yn unig (14.8-15%)

Gwynedd: Efallai yn sgil addysg mi fydd yna gynnydd, ond dwi ddim yn hollol sicr felly credaf gall y canran bod unrhywbeth rhwng 65-71% Ond cyn belled ar mae fy milltir sgwar i yn y cwestiwn (Harlach) credaf, yn sgil yr holl mewnfudo + Cymry Cymraeg yn siarad Saesneg i'w phlant fydd y canran wedi gostwng o 56% i oeddetu 48%. :(

Merthyr Tudful: Gan bod yr sefyllfa yn yr sector addysg Cymraeg wedi bod yn eithaf sefydlog, yn ogystal a effeithiau megis allfudo, credaf fydd y canran o gwmpas 11-12%

Sir Fynwy: Yn sgil twf addysg Cymraeg, credaf fydd y canran rhwng 12-15%

Castall Nedd Port Talbot: Er gwaethaf twf addysg Cymraeg, fydd wedi rhoi hwb i'r ffigyrau, credaf fydd ardaloedd Cymraeg y sir wedi gweld gostyngiad (yn sgil allfudo a rhieni'n gwrthod trosglwyddo'r iaith yn fy marn i), ac felly fydd y canran oeddetu 18%

Casnewydd: Yn sgil ffactorau debyg i weddill y de dwyrain (ond twf mewn addysg Cymraeg yn bennaf) credaf fydd y canran o gwmpas 14-15%

Sir Benfro: Unwaith yn rhagor, fydd y sector addysg Cymraeg wedi rhoi hwb i'r ffigyrau, ond credaf fydd yna gostyngiad wedi bod yn gogledd y sir am rhesymau tebyg i weddill y Fro Gymraeg (24.5-25%)

Powys: Gostyngiad yn ardaloedd Cymraeg, ond mi fydd cynnydd fel arall (21.8-22%)

Rhondda Cynon Taf: Yn sgil twf addysg Cymraeg, yn ogystal a Cymry Cymraeg yn symud i ardaloedd ger Caerdydd (Ffynnon Taf a Phentref Eglwys er enghraifft) credaf fydd y canran o gwmpas 15.3%

Abertawe: Credaf mi fydd yna cynnydd yn sgil addysg Cymraeg, ond fydd ardaloedd Cymraeg y gogledd (ee Mawr) wedi gweld gostyngiad, felly 13.8-14%

Torfaen: Am rhesymau tebyg i Gwent yn gyffredinol, credaf fydd twf mawr wedi bod (16-18%)

Bro Morgannwg: Am rhesymau tebyg i Gaerdydd a Rhondda Cynon Taf, credaf fydd y canran wedi codi at tua 15%

Wrecsam: Unwaith yn rhagor, diolch i addysg, credaf fydd y ganran wedi codi mymryn (14.8-15%)

Felly yn sgil y ffigyrau hyn, mae'n glir imi mae y petha fwyaf sydd hefo'r gallu i achub y Gymraeg yn y dyfodol, yn enwdig yn y Fro Gymraeg, fydd trosglwyddo iaith cynnyddol (rhaid addysgu rhieni/ddarpar rhieni am y fanteision), addysg Cymraeg yn y Fro (nid y lol ddwyieithog 'ma sydd, yn fy mhrofiad i mond yn sicrhau bod Cymry Cymraeg yn ddwyieithog) a swyddi hefo cyflogau da fydd yr unig petha hefo'r gallu i achub y Gymraeg yn cymunedol ac yn genedlaethol (ond wrth gwrs credaf mae rhaid canolbwyntio ar y Fro yn bennaf.) 

Hoffwn clywad sylwadau ac amcanfyfrifoedd pobol eraill. 
  

13 comments:

  1. Iawn - dwi'n licio sialens..! Y ffigwr diddorol yn ardoddiad Hywel Jones oedd "Nifer yn gallu siarad Cymraeg" yn 2011. Mae o'n amcangyfri 583,000 (+1000). Mi faswn ni'n meddwl bod o llawer uwch (a'r cynnydd mwyaf yn yr oedran 16-24) - tua 640,000 - be ti'n feddwl?

    Mi ddoi nol a canranau ar gyfer y gwahannol siroedd pan ga'i amser.

    Ioan.

    p.s. os ti isho mwy o sylwadau, mi fasa'n well os basa ti'n gadel pobol i "Commment as: Name / Anon"

    ReplyDelete
  2. O'n i'n meddwl 'sa fo 'di bod yn uwch 'na 583,000 hefyd i ddweud y gwir (bendant dros 600,000) ond ddim yn hollol siwr faint, a dyna pam o'n i wedi penderfynnu canolbwyntio ar canrannau'n unig. Be sy'n neud iti meddwl bydd y cynnydd mwyaf yn y grwp oedran 16-24? Roeddwn i wedi meddwl hynny fi'n hyn, gan ystyried faint o gynnydd roed yna yn y grwp 3-15 yn 2001, felly sa hynny'n gwneud synnwyr. Ond wedyn o'n i 'di meddwl ella 'sa na cwymp 'di bod yn y grwp yna, yn enwedig ymysg y rhai 18-24 yn bennaf (ar gyfer y rhai oedd yn mynd i coleg, yn enwedig yn Lleogr neu'r Alban). Rhywbeth arall oedd wedi denu sylw fi oedd y cynnydd yn y grwp 25-39 oed yn 2001, fydd hi'n difyr i weld os fydd y cynnydd yn ail-adrodd ei hyn, yn enwedig gan ystyried dyma'r grwp oedran fwyaf tebygol ar gyfartaledd i ddechra teulu (ac felly yn gwneud panderfyniadau am pa iaith mae nhw am siarad gyda unrhyw blant.)

    Diolch am y tip, newydd wedi gwneud.
    Ant

    ReplyDelete
  3. "Be sy'n neud iti meddwl bydd y cynnydd mwyaf yn y grwp oedran 16-24? Roeddwn i wedi meddwl hynny fi'n hyn, gan ystyried faint o gynnydd roed yna yn y grwp 3-15 yn 2001"

    Dyna'r union reswm pam y bydd y cynnydd mwyaf yn oedran 16-24. Gawn ni byth y cynnydd enfawr yn yr oedran 3-15 eto, ond does dim rheswm i beidio disgwyl i'r nifer sy'n gallu siarad Cymraeg yn yr oedran 3-15 fynd i fynu tua 10% eto.

    Dwi'n cytuno hefyd mai y grwp 25-39 fydd yr un fwyaf diddorol - yn un peth mi roedd na cynnydd da yn yr oedran 15-29 yn 2001, ac hefyd mi fydd o'n cyfri'r rhai oedd yn y Brifysgol yn Lloeger yn 2001, ond wedi dod nol i Gymru ers hynnu.

    Ffellu - i roi 'mhen ar y bloc:
    Oed Nifer (K) (Newid ers 2001)
    3-15 210K (+26K)
    16-24 119K (+49K)
    25-39 108K (+20K)
    40-59 112K (-4K)
    60+ 116K (-8K)

    Yn rhoi cyfanswm o 659,000 ish! Swnio braidd yn uchel i fi, ond dyna ni - dyna mae'r cyfrifiadur yn ddeud...

    ReplyDelete
  4. "Gawn ni byth y cynnydd enfawr yn yr oedran 3-15 eto" Pam? Os taw addysg yn bennaf oedd yn gyfrifol, ac yn ogystal os mae'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg wedi cynnyddu rhwng 2001-10 swn i'n disgwyl yr un fath o gynnydd (neu hyd yn oed cynnydd uwch.)

    "mi fydd o'n cyfri'r rhai oedd yn y Brifysgol yn Lloeger yn 2001, ond wedi dod nol i Gymru ers hynnu." Dallt yn iawn, ond meddwl o'n i am y gostyngiad yn y niferoedd/canrannau yn sgil y rhai oedd yn studio dros y ffin llynedd.

    Dwi'n meddwl ella fydd y cyfanswm yna'n eitha agos at yr un go iawn, wrth ystyried oedd 'na gynnydd o rhyw 80,000 rhwng 1991-2001, felly nid yw'r ffigwr yn gwbl amhosib.

    ReplyDelete
  5. "Gawn ni byth y cynnydd enfawr yn yr oedran 3-15 eto" Pam?

    Achos bod na lawer o wardiau wedi dangos cynnydd anferth (mewn ambell i le mwy na 50%) yn yr oedran 10-14 e.e

    1991 (11-15) 2001 (10-14)
    Calstell Caldicot 1.5% 52.4%
    Crucorney 1.9% 52.3%
    etc
    Hefyd, dydi'r cynnydd ddim oherwydd addysg Gymraeg - mae'r cynnydd mwyaf wedi bod yn yr ardaloedd ysgolion saesneg (dwyieithog?!) sydd yn dysgu Cymraeg i blant am y tro cynnta (yr hen sir Gwent). Hyd yn oed os basa addysg Cymraeg yn dwblu yn y ddeg mlynedd nesa, fasa census 2021 prin yn dangos newid (ella +3% yn 2021, a +5 % arall yn 2031 ella...)

    "Dallt yn iawn, ond meddwl o'n i am y gostyngiad yn y niferoedd/canrannau yn sgil y rhai oedd yn studio dros y ffin llynedd. "
    Ella bydd y ffaith bod na fwy yn mynd i'r brifysgol yn 2011 o'i gymharu a 2001 am roi clec i'r ffigwr 16-24 - fe gawn weld!

    Un peth i'w gofio wrth edrych nol ar ffigyrau 1991, mi gafodd y census ei lenwi yn ystod gwyliau coleg. Dyna pam bod ffigyrau Gwynedd a Ceredigion yn yr oedran 16-24 mor wael ar yr olwg gynta.

    ReplyDelete
  6. Pwynt teg, mi roeddwn i'n tybio pa fath o effaith 'sa astudio'r Gymraeg hyd at 16 yn ysgolion Saesneg, ond roeddwn i wedi meddwl ella roedd hi'n rhy gynnar (1999-2001) i weld sgil-effeithiau y polisi ar ystadega ieithyddol yn y de ddwyrain.

    "Un peth i'w gofio wrth edrych nol ar ffigyrau 1991, mi gafodd y census ei lenwi yn ystod gwyliau coleg."

    Roeddwn i'n tybio pam oedd yna newid yn 2001-11 i ddweud y gwir, roeddwn i'n meddwl pwynt y cyfrifiad oedd i cofnodi pobl yn byw yn eu chartrefi 'parhaol', oherwydd nid yw pobl yn byw yn llety myfyriwr yn barhaol, yn wir o'n i'n cwestiynnu'r pwynt o cyfnodi fi'n hyn fel byw ym Mangor oherwydd roeddwn i ar fin symyd arda.

    ReplyDelete
  7. Nes i addo canranau i bob Sir yn do...

    Gwynedd 66.8%
    Isle of Anglesey 52.8%
    Ceredigion 52.4%
    Carmarthenshire 43.4%
    Conwy 27.2%
    Denbighshire 26.0%
    Pembrokeshire 23.0%
    Powys 21.3%
    Torfaen 20.2%
    Newport 16.6%
    Blaenau Gwent 16.5%
    Neath Port Talbot 16.4%
    Monmouthshire 15.7%
    Rhondda Cynon Taf 15.5%
    Caerphilly 15.2%
    Wrexham 15.0%
    Flintshire 14.9%
    The Vale of Glamorgan 14.6%
    Cardiff 14.3%
    Swansea 13.2%
    Merthyr Tydfil 12.2%
    Bridgend 12.2%

    Dyna ni - ambell un ella braidd yn uchel - Ceredigion, Torfaen, B Gwent a Chasnewydd ella, ond dyma mae excell yn ddeud wrtha' i...

    ReplyDelete
  8. Diolch! Hmm, o'n i'n ama roedd Ceredigion yn uwch 'na beth o'n i'n ddisgwyl, ond wedi ddweud hynny, yn ol y cyfrifiad, mond rhyw gynnydd o dros 900 o bobl sydd wedi bod yn y poblogaeth, felly os mae'r canran wedi gostwng, mae rhaid bod llwyth o Gymry Cymraeg wedi allfudo o'r sir. Ac os dwi'n cofio'n iawn, mi oedd yna gynnydd yn y niferoedd o siaradwyr y Gymraeg yn y sir yn 2001, felly cawn weld. Sir Gar lot llai na be o'n i'n ddisgwyl a Torfaen, BG a Chasnewydd i weld yn anhebygol o uchel. Difyr iawn!

    ReplyDelete
  9. Ti'n iawn am Geredigion - yr unig beth fydd yn gweithio yn ei erbyn, ydi bod yna gwymp yn y nifer o blant (y grwp sydd efo'r ganran ucha o siaradwyr Cymraeg). Mi fydd hyn yn gweithio yn erbyn y ffigyrau yn y rhan fwyaf o siroedd.

    Yr un difir arall ydi Caerdydd - er bod 'na gynydd mawr yn y nifer o siaradwyr Cymraeg, mae na gynydd mawr yn y nifer o bobl.

    Mae o'n andros o anodd gesho be fydd canlyniadau yr hen Gwent. Os 'di'r plant oedd yn 'gallu siarad Cymraeg' yn 2001 yn rhoi tic yn y bocs 'Cymraeg' yn 2011, mi fydd y canranau yn uchel iawn - mi gawn weld.

    Sori, ond dwi'n reit hyderus y bydd Sir Gaer yn wael iawn eto tro 'ma.

    ReplyDelete
  10. Efallai fydd gostyngiad yn digwydd yng Ngheredigion i raddfa fechan felly, oherwydd, yn ol adroddiad Strategath addysg Cymraeg y Llywodraeth eleni, mae y ganran o blant sydd yn cael eu hasesu yn y Gymraeg fel iaith 1af yn 7 oed yn ysgolion y sir wedi gostwng.

    Pwynt teg ynglyn a Chaerdydd, efallai na fydd y ganran yn codi mor gymaint felly yn sgil y cynnydd (y fwyaf yng Nghymru?) Ond mae'n derbyniol ar faint o Gymry Cymraeg sydd wedi symud yno rhwng 2001-11. Dwi ddim yn awgrymu mai nhw yn unig sy'n gyfrifol am y twf demograffeg, ond maent yn gyfrifol am elfen sylweddol ohoni yn fy nhyb i.

    Fydd Gwent yn bendant yn ardal difyr i edrych arni, ac yn ogysal a siaradwyr 2001 yn ail-cofnodi eu hunain fel siaradwyr y llynedd, mae yna twf wedi bod yn y nifer o ysgolion Cymraeg yn yr ardal dros y degawd ddwytha. Ond, faint o allfudo fydd wedi bod ymysg y siaradwyr hyn? Yn enwedig yn yr ardaloedd fwy tlawd. Elfen arall o cheisio dadansoddi'r cyfanswm.

    Ond beth sy'n mynd i achosi'r fath cwymp yn sir Gaerfyrddin? Os mai mewnfudo fydd yn gyfrifol, swn i'n ddisgwyl i lefydd megis Gwynedd cael hi'n waeth (parc cenedlaethol yn fwy atyniadol i bobl o Loegr yn fy nhyb i.) Neu ydi allfudo a rhieni'n gwrthod trosglwyddo'r iaith i'w phlant fydd yn gyfrifol. Dwi wedi darllen yn rhywle bod mae yna problema trosglwyddo iaith yn y sir (diffyg hyder o ran y rhieni?)

    ReplyDelete
  11. Yn Sir Gaerfyrddin:
    1) Cynydd yn y boblogaeth
    2) Nifer cymharol isel o blant yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol (o'i gymharu a Gwynedd, Ceredigion ac Ynys Mon)
    3) Diffyg trosglwyddo iaith o rieni i'r plant (drost amser hir)
    4) Canran llawer uwch o bobl hun yn siarad Cymraeg o'i gymharu a'r ganran o bobl ifanc.

    Yr unig beth da, ydi bod 'na gynnydd wedi bod rhwng 1991 a 2001 yn y nifer o blant oedd yn gallu siarad Cymraeg, fellu hei lwc bydd 'na gynydd yn yr oedran 16-19 ac 20-24 am y tro cynta erioed!!

    O ran Gwynedd,
    1) Y cynydd yn y poblogaeth yn yr oed 16-24 i.e. myfyrwyr Bangor
    2) Pawb yn cael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg (mewn theori..!)
    3) Trosglwyddo'r iaith yn +ve yn Dwyfor ac Arfon (sori, ddim cweit mor dda yn Meirionydd)
    4) Y gwyrthwyneb o Gaerfyrddin, pobl ifanc lot fwy tebygol o fod yn gallu siarad Cymraeg o'i gymharu a phobl hun.

    ReplyDelete
  12. O ia, yn sir Gaerfyrddin,
    ____________________________1991____2001____2011
    Nifer o bobl (pob oed) _______________173700_183800
    Nifer sy'n gallu siarad cymraeg: 89645__84195__79728**
    % sy'n gallu siarad Cymraeg ___________48.5%__43.4%**

    Fel arfer, mae pobl yn son am y ganran o 3+ oed, fellu % o'r 3+ fasa tua 45.2%

    ** guess!!

    ReplyDelete
  13. Hwnna i gyd yn sonio'n iawn imi. Ella dwi'n llawar llai positif o ran y Gymraeg oherwydd fy mod o Feirionydd ac yn weld ddim byd ond ddiriwiad ieithyddol. A chyn belled a mae'r ysgolion lleol ac addysg Gymraeg yn y cwestiwn, o fy atgofion i o'r ysgol, roedd yna fwy o bwyslais ar y Saesneg o'r cychwynt cyntaf. Hyd yn oed yn yr ysgol Uwchradd (Ysgol Ardudwy) roedd lot o'r staff yn di-Gymraeg. Yn ogystal, er gwaetha'r ffaith ddaru'r fwyafrif o ddisgyblion o gartrefi Saesneg yn fy mlwyddyn i dod allan o'r ysgol hefo rhyw fath o grap ar y Gymraeg, fi oedd yr unig un (yn ogystal ag 1 disgybl arall) oedd wedi darfod ysgol un rhugl yn yr iaith, roedd yna'n gyffredinol lot fwy o bwyslais ar ceisio sicrhau roedd y ddisgyblion Cymraeg eu hiaith yn ddysgu siarad Saesneg yn rhugl na'r ffordd arall rownd yn anffodus. Felly 'sgin i'm fawr o ffydd wneith yr iaith para'n hir iawn yn yrr ardal 'ma, dwi bron byth yn clywed y Gymraeg y dyddia hyn, heb law am pryd dwi'n siarad a'r teulu.

    ReplyDelete