tag:blogger.com,1999:blog-33460290990666441402024-03-08T15:51:34.824+00:00Blog y GogGog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.comBlogger28125tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-10668425605450520862015-05-21T16:44:00.002+01:002015-05-21T16:44:32.315+01:00Dyma fi, ar ôl bron i 3 blynedd o absenoldebDyma fi wedi ddychwelyd ar ôl peth amsar. Mae 'na amryw o rhesymau pam, ond mi fyddaf yn ceisio ail-gydio ar y blog, rŵan bod petha 'di tawelu rhywfaint yn fy mywyd addysgiadol a phersonol.

Mi fyddaf yn edrych ar yr un hen bynciau, ieithoedd tramor, llenyddiaeth, ac wrth gwrs, gwleidyddiaeth. Gobeithio caf sgwennu rhywbeth dros y penwythnos.

Hwyl am y tro!

Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com1tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-39836760965627908852012-06-27T11:30:00.002+01:002012-06-27T11:30:56.335+01:00Amcangyfrif ystadegol o'r canran o siaradwyr y Gymraeg yng Nghymru fesul ardalHyd yn hyn, tydw i heb wedi gweld unrhyw amcangyfrifoedd ystadegol o ffigyrau 2011, ac fel myfyriwr Polisi a Chynllunio Ieithyddol, yn ogystal a rhywun sydd yn byw yn Wynedd, mae ffigyrau o'r fath yn bwysig dros ben imi. Gan ystyried sawl ffynhonell, mi fyddaf yn ceisio amcangyfri'r canran ar gyfer siaradwyr y Gymraeg yng Nghymru fesul sir. Wrth imi ceisio rhoi canran ar gyfer pob sir unigol, mi fyddaf yn ystyried sawl ffynhonell megis Adroddiad Cyfrifiad 2001, Higgs et al 2004, Darlyn ystadegol y Gymraeg cafodd ei gyhoeddi eleni, ffigyrau'r Comisiynydd yn ogystal a adroddiad blynyddol Strategaeth addysg Cyfrwng Cymraeg 2010/11.

Sir Fon: 60-60.9% Wrth imi ystyried ffactorau megis addysg (cynydd asesiadau iaith 1af), allfudo a mewnfudo, yn ogystal a sut mae'r ffigyrau wedi newid ers 1981, mae'r ffigyrau hyn i weld fel y rhai fwyaf tebygol.

Blaenau Gwent: 12-15% Wrth imi ystyried y effaith posib o addysg cyfrwng Cymraeg (1 ysgol) Cymraeg fel ail iaith yn pwnc gorfodol hyd at 16, a'r effaith posib ar ffigyrau yn sgil hynny, y cynnydd rhwng 1991 a 2001 yn ogystal a allfudo, dyma'r ffigyrau sydd yn erdych fwyaf tebygol yn fy nhyb i.

Penybont ar Ogwr: Wrth imi ystyried y ffactorau eithaf tebyg i'r rhai ym Mlaenau Gwent, yn ogystal a agoriad Ysgol Gyfun Llangynwyd a'r newid ystadegol rhwng 1981-2001, dwi'n meddwl bydd y ffigyrau o gwmpas 12.9-13%

Caerffili: Gan ystyried y twf sylweddol yn y sector addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal yn bennaf, credaf mi fydd y ffigwr o gwmpas 15.9-17%

Caerdydd: Y ffactorau amlwg i ystyried fan hyn yn fy nhyb i yw Cymry-Cymraeg yn mewnfudo yno o ardaloedd eraill o Gymru yn ogystal a'r twf sylweddol yn poblogrwydd addysg cyfrwng Cymraeg. Ac felly, credaf fydd y canran rhywle o gwmpas 16-18%

Sir Gar: Yn anffodus, er gwaethaf twf poblogrwydd addysg cyfrwng Cymraeg yn y Sir ac felly fydd y canrannau ymysg pobl o dan 18 yn cynyddu, credaf mae yna beryg, yn sgil allfudo/mewnfudo fydd y ffigwr wedi gostwng o dan 50% ella 48-9%.

Ceredigion: Yn sgil patrymau tebyg i Sir Gar, credaf fydd y canran wedi gostwng unwaith yn rhagor (45%?) Ond, mi fydd o grwpiau oedran o dan 18 yn weld cynnydd bach decin i.

Conwy: Efallai fydd yna cynnydd yn y niferoedd yma yn sgil addysg, ond mi fydd yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn anffodus, yn weld gostyngiad yn sgil mewn- ac allfudo (30% ar gyfer y Sir cyfan.)

Sir Dinbych: Yr un hanas a Chonwy mae arnai ofn, am rhesymau tebyg, ond mi fydd yna gynydd (28%?)

Sir y Fflint: Mae pethau i weld wedi bod yn eithaf sefydlog yma ers 1981, ac felly credaf fydd yna cynnyd bach iawn yn unig (14.8-15%)

Gwynedd: Efallai yn sgil addysg mi fydd yna gynnydd, ond dwi ddim yn hollol sicr felly credaf gall y canran bod unrhywbeth rhwng 65-71% Ond cyn belled ar mae fy milltir sgwar i yn y cwestiwn (Harlach) credaf, yn sgil yr holl mewnfudo + Cymry Cymraeg yn siarad Saesneg i'w phlant fydd y canran wedi gostwng o 56% i oeddetu 48%. :(

Merthyr Tudful: Gan bod yr sefyllfa yn yr sector addysg Cymraeg wedi bod yn eithaf sefydlog, yn ogystal a effeithiau megis allfudo, credaf fydd y canran o gwmpas 11-12%

Sir Fynwy: Yn sgil twf addysg Cymraeg, credaf fydd y canran rhwng 12-15%

Castall Nedd Port Talbot: Er gwaethaf twf addysg Cymraeg, fydd wedi rhoi hwb i'r ffigyrau, credaf fydd ardaloedd Cymraeg y sir wedi gweld gostyngiad (yn sgil allfudo a rhieni'n gwrthod trosglwyddo'r iaith yn fy marn i), ac felly fydd y canran oeddetu 18%

Casnewydd: Yn sgil ffactorau debyg i weddill y de dwyrain (ond twf mewn addysg Cymraeg yn bennaf) credaf fydd y canran o gwmpas 14-15%

Sir Benfro: Unwaith yn rhagor, fydd y sector addysg Cymraeg wedi rhoi hwb i'r ffigyrau, ond credaf fydd yna gostyngiad wedi bod yn gogledd y sir am rhesymau tebyg i weddill y Fro Gymraeg (24.5-25%)

Powys: Gostyngiad yn ardaloedd Cymraeg, ond mi fydd cynnydd fel arall (21.8-22%)

Rhondda Cynon Taf: Yn sgil twf addysg Cymraeg, yn ogystal a Cymry Cymraeg yn symud i ardaloedd ger Caerdydd (Ffynnon Taf a Phentref Eglwys er enghraifft) credaf fydd y canran o gwmpas 15.3%

Abertawe: Credaf mi fydd yna cynnydd yn sgil addysg Cymraeg, ond fydd ardaloedd Cymraeg y gogledd (ee Mawr) wedi gweld gostyngiad, felly 13.8-14%

Torfaen: Am rhesymau tebyg i Gwent yn gyffredinol, credaf fydd twf mawr wedi bod (16-18%)

Bro Morgannwg: Am rhesymau tebyg i Gaerdydd a Rhondda Cynon Taf, credaf fydd y canran wedi codi at tua 15%

Wrecsam: Unwaith yn rhagor, diolch i addysg, credaf fydd y ganran wedi codi mymryn (14.8-15%)

Felly yn sgil y ffigyrau hyn, mae'n glir imi mae y petha fwyaf sydd hefo'r gallu i achub y Gymraeg yn y dyfodol, yn enwdig yn y Fro Gymraeg, fydd trosglwyddo iaith cynnyddol (rhaid addysgu rhieni/ddarpar rhieni am y fanteision), addysg Cymraeg yn y Fro (nid y lol ddwyieithog 'ma sydd, yn fy mhrofiad i mond yn sicrhau bod Cymry Cymraeg yn ddwyieithog) a swyddi hefo cyflogau da fydd yr unig petha hefo'r gallu i achub y Gymraeg yn cymunedol ac yn genedlaethol (ond wrth gwrs credaf mae rhaid canolbwyntio ar y Fro yn bennaf.)

Hoffwn clywad sylwadau ac amcanfyfrifoedd pobol eraill.

Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com13tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-19997753646456792972012-06-20T08:53:00.001+01:002012-06-20T08:53:02.413+01:00Cenedlaetholwr Llydaweg yn ennill sedd yn senedd FfraincHoffwn ymestyn pob dymuniad dda i Paol Molac, y Cenedlaetholwg Llydaweg gyntaf erioed i ennill set yn Senedd Ffrainc. Rydwyf yn obeithiol, yn sgil y datblygiad yma y fydd hi'n bosib i'r UDB ennill rhagor o seddi yn y dyfodol, ac, ella, llwyddo i gael rhywfath o ddatganoli ar gyfer Llydaw.

Yn ogystal, yn sgil ymrwymiad Francois Hollande i arwyddo'r Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Lleiafrifol, dwi'n gobeithio y fydd Paol yn gallu sicrhau hawliau tecach i siaradwyr y Llydaweg yn Llydaw.

Pob hwyl Paol! Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-23586371209378210432012-06-19T11:31:00.002+01:002012-06-19T11:31:54.353+01:00Gwaharddiad ar bobl ifanc o dan 16 oed gyda'r nos ym Mangor: Trafodwch.Ar ol imi clywed am yr ddatblygiad yma, mae rhaid imi cyfaddef roeddwn i'n meddwl yr oedd hi'n joc ffol Ebrill hwyr. Ond, ar ol y noson gyntaf wrth gwrs dwi'n ddeall yn iawn mae nid tynnu coes oedd hwn.

Yn gyntaf, mae rhaid gofyn, oes yna problemau go iawn ym Mangor a'u hienctid gyda'r nos? Ar ol imi astudio yno am 5 mlynedd rhwng 2007-12, mae rhaid imi cyfaddef, fy mod i heb wedi sylweddoli ar ddim byd yn debyg i ymdygiad gwrth-cymdeithasol, yn sicr nid o'r fath a sydd yna yn fy milltir sgwar (Harlech.) Felly, yn y bon, heb fy mod i'n dyst ar ynrhyw ymdygiad negyddol oddi ar plant a phobl ifanc, dwi'n meddwl mae'r mesurau hyn yn braidd yn eithafol.

Yn ogystal, mi rydw i'n wybodol nad ydi'r mesurau hyn yn perthnasol os yw'r plentyn/plant o dan 16 oed mewn cwni rhywun hyn, ond teimlaf mae rhaid gofyn, a yw pobl yn ymyrryd lle does ddim rhaid? Yn sicr roeddwn i'n cymryd hi'n ganiataol, ar ol bod yr un oed a'r pobl dan sylw mai gyda'r rhieni oedd y gair olaf ar faint o gloch roedd rhaid i blant dod adra gyda'r nos (roedd rhaid imi'n sicr bod yn fy ngwely erbyn 9 o'r gloch y nos ar noson ysgol, a doedd yna ddim modd mynd allan ar noson ysgol ta beth), ac yn sicr, teimlaf y rhieni sydd hefo'r cyfrifoldeb o ddisgyblu eu phlant eu hunain.

Felly, wrth cymryd y mesurau hyn, a yw'r awdurdodau yn cymryd un cyfrifoldeb craidd oddi ar rhieni? Ydi'r mesurau hyn yn dystiolaeth nad yw'r awdurdodau heb ddim hyder o gwbl yn gallu rhieni Bangor i chadw rheolaeth o'u phlant? Amser a ddengys sut fydd y mesurau hyn yn gweithio.Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-64223169070825326002012-06-14T13:56:00.000+01:002012-06-14T13:56:28.388+01:00Dysgu Ieithoedd Modern yn ysgolion cyfrwng Cymraeg?Wedi imi ddarllen disgrifiad o ysgolion Diwan (ysgolion cyfrwng Llydaweg yn Llydaw) fan hyn, wrth ystyried y ffordd mae'r ysgolion hyn yn cyflwyno sawl iaith i'r ddisgyblion, dwi'n meddwl bod hyn yn sonio fel rhywbeth gall Llywodraeth Cymru/cynghorau sir cyflwyno yn eu hysgolion cyfrwng Cymraeg/naturiol Cymraeg er fwyn hybu sgiliau amlieithrwydd cyn i ddisgyblion dechrau eu haddysg yn yr ysgol uwchradd. Wrth imi edrych ar y dull mae ysgolion Diwan yn eu defnyddio, credaf dyma ffordd o efallai cyflwyno ieithoedd modern yn ysgolion gynradd:

Meithrin/Dosbarth derbyn/Cyfnod Sylfaen: Cymraeg yn unig (cadw at y drefn presennol)

Blwyddyn 3: cyflwyno Saesneg fel pwnc yn unig OND nid fel cyfrwng dysgu (fel sydd yn digwydd yn ysgolion 'naturiol' Cymraeg)

Blwyddyn 5: Credaf erbyn hyn, gan ystyried yr oes sydd ohoni, y bydd pob plentyn yn rhugl yn Saesneg, ac felly efallai y cyfnod hwn byddai'r cyfnod gorau i cyflwyno iaith newydd am rhwng 1-2 awr yr wythnos tan iddynt cychwyn yn yr ysgol uwchradd.

Ysgol uwchradd: 5 awr o wersi iaith modern yr wythnos. Ar gyfer y ddisgyblion sydd yn ddangos gallu ieithyddol da, credaf y dylid cyflwyno iaith modern arall yn ystod Blwyddyn 8.

TGAU: Angenrheidiol i barhau hefo o leiaf un iaith dramor (felly Cymraeg Iaith Gyntaf, Saesneg + iaith Ewropiaidd)

Rwan 'ta, efallai eich bod chi'n meddwl hyd yma "I be 'dan ni eisio gwneud hyn pryd mae hi'n ddigon o frwydr ceisio ddwyn perswad ar blant i siarad Cymraeg yn ein hysgolion ac i sicrhau eu fod yn rhugl eu Gymraeg?" ac i raddfau dwi'n cytuno a'r safbwynt hyn. Ond, clywais i y llynedd (mis Tachwedd/Rhagfyr) bod ysgolion cyfrwng Basgeg yn Wlad y Basg yn gwneud rhywbeth tebyg er fwyn ceisio ehangu gorwelion ieithyddol y blant ac i ceisio ddangos iddynt mae modd defnyddio ieithoedd eraill heb law am Sbaeneg/Ffrangeg. A chredaf dyna beth mae'r ysgolion Diwan yn ceisio gwneud wrth cyflwyno sawl iaith ychwanegol i'r plant, er fwyn ddangos iddynt mae modd siarad ieithoedd eraill heb law am Ffrangeg er fwyn cyfarthrebu. Ond wedyn, mae rhaid ystyried pa ieithoedd i gyflwyno i'r ddisgyblion (a'u diddfordeb yn yr iaith honno a diwylliant y gwlad/gwledydd dan sylw), ac wrth gwrs mae agweddau'r rhieni/athrawon tuag at ieithoedd neu'r gwledydd ble mae'r iaith honno'n cael ei siarad sydd yn mynd i cael effaith mawr ar agwedd y plant (rhywbeth, yn fy marn i wnaeth cyfrannu'n sylweddol at agweddau gwrth-Ffrangeg/Cymraeg yn fy ysgol uwchradd i.) Ac wrth gwrs mae rhaid ystyried sut bysa'r iaith ychwanegol yma'n cael effaith ar gallu'r athrawon i gyflwyno'r cwriciwlwm cenedlaethol yn effeithiol (yn enwedig yr angen i ddysgu o leiaf 70% o'r cwricwlwm trwy'r Gymraeg, canran, yn fy marn i, dylsa'r awdurdodau codi i 80-85%). Ac wedyn wrth gwrs, rydw i'n cydnabod bod y gallu i gyflwyno ieithoedd modern yn dibynnol ar gallu ieithyddol yr athrawon, ac faint 'sa hyfforddi athrawon yn costio, neu'r costau o cyflogi aelod o staff yn arbennig ar gyfer dysgu Ffrangeg/Sbaeneg neu pwy bynnag iaith.

Wedi ddweud hynny, mi ydw i'n o blaid ail-gyflwyno cwrs craidd TGAU mewn o leiaf un iaith modern, efallai 'sa hynny'n helpu hybu sgiliau ieithyddol athrawon y dyfodol?

Yn ogystal, mae hi'n wrth gwrs amhosib i ragweld sut wneith iaith modern dylanwadu ar agweddau ddisgyblion tuag at y Gymraeg neu Saesneg hyd yn oed.

Felly, yn amlwg mae hyn yn mater llawn cymhlethtod, ac hoffwn gwybod beth mae pobl eraill yn meddwl a sut 'sa nhw'n diwygio'r awgrymiadau hyn.

Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com2tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-91033912538291865592012-06-13T08:57:00.000+01:002012-06-13T08:57:38.428+01:00Gwyliau Cymreig. Ydan ni'n eu ddathlu nhw, ac os felly sut?Cofiais i neithiwr yr oedd hi'n Dydd y Dywysoges Gwenllian ddoe. Dwi'n gwybod ein fod ni, fel Cymry yn ddathlu gwyliau megis Dydd Gwyl Dewi, Dydd Santes Dwynwen, ac mae rhai ohonom yn teithio i Gilmeri adeg Rhagfyr 11 er fwyn cofio Llywelyn ap Gruffudd, ond a oes yna pobl sy'n dathlu Dydd y Dywysoges Gwenllian, ac os felly, sut?

Yn ogystal, hoffwn gwybod os, a sut y mae pobl yn dathlu gwyliau Cymreig megis Dydd Owain Glyndwr (16 o Fedi i'r rhai doedd ddim yn gwybod) a Diwrnod Rhyngwladol Twm Sion Cati. Mae'n difyr dros ben imi meddwl bod yna mor gymaint o wyliau Cymreig, ond does 'na ddim llawer o son i'w glywed am pwy sy'n ddathlu'r gwyliau hyn, na sut. Yn personol, teimlaf bod hyn braidd yn drist bod yna cynifer o gwyliau Cymreig yn mynd heibio bob blwyddyn heb fawr o sylw (ond, wedi ddweud hynny, does 'na byth llawer o sylw na chydnabyddiaeth yn cael ei roi i gwyliau megis Dydd Gwyl Dewi na Dydd Santes Dwynwen yn fy milltir sgwar i beth bynnag, felly ella na ddylwn i meddwl gormod am y lleill am y tro.)

Wedi meddwl am hynny, efallai ddylwn ni fel Cymry ceisio gwneud fwy o ymdrech i hybu rhai o'r gwyliau 'ma, nid yn unig er fwyn hybu Cymreigtod, ond hefyd teimlaf y fydd y gwyliau hyn (yn ogystal a'r iaith Gymraeg) yn gallu cyfrannu at hybu twristiaeth diwilliannol yn ein gwlad, rhywbeth sydd i weld yn ddigon prin hyd yn hyn. Gan ystyried faint o lwyddiant mae twristiaeth diwylliannol yn cael yn lefydd megis yr Alban, Iwerddon a Llydaw (a'r Wladfa hyd yn oed) credaf mae'n hen bryd i ni ceisio cymryd fantais o'r diwylliant a hanes sydd gennym ni.

Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-19231684337217988212012-06-12T11:45:00.000+01:002012-06-12T11:45:17.462+01:00Statws swyddogol a defnydd iaith: Cymru, Iwerddon a Gwlad y BasgRydw i newydd wedi ddarllen erthygl fan hyn ynglyn ag awydd Kontseilua (mudiad cywerth a CyI fama'n Nghymru) i ceisio sicrhau statws swyddogol i'r iaith Fasgeg yn Gwlad y Basg. Rwan 'ta, ar y cyfan, rydw i'n cefnogol a'r hyn maent yn ceisio cyflawni, ond mae gen i pryderon ynglyn a'u hawydd am statws swyddogol, gan ystyried pethau tebyg sydd wedi digwydd nes at gatra'. Yn ogystal, dwi ddim yn hollol sicr o sut maent am sicrhau'r fath statws o fewn gwladwriaeth ble, yn ol y Cyfansoddiad Sbaeneg, mae gan pob dinesydd y ddyletswydd i gwybod Sbaeneg, sydd yn awgrymu imi hyd yn oed tasa gen yr iaith Fasgeg statws swyddogol, fydd statws cyfansoddiadol Sbaeneg wastad yn golygu defnydd uwch o'r iaith honno gan fydd yr iaith Fasgeg yn llai pwysig o safbwynt y Genedl. Yn ogystal, credaf fydd y statws cyfansoddiadol yma yn golygu fydd ceisio sicrhau dyletswydd i gwybod Basgeg yn amhosib, ac yn sgil hynny, fydd ceisio "normaleiddio'r" Fasgeg i'r fath raddfau yn her uchelgeisiol dros ben.

Yn ogystal, mi ydw i'n poeni, er mae'r dogfen yn nodi pwysicrwydd pob haen o gymdeithas Gwlad y Basg wrth mynd ati i normaleiddio'r iaith, y dosbarth-canol ac nid y werin fydd yn elwa fwyaf. Drychwch ar Iwerddon fel enghraifft, er gwaethaf y statws swyddogol yn ol y cyfansoddiad, mae'r werin wedi parhau i raddfau helaeth i defnyddio Saesneg yn unig. Mae hyn yn awgrymu imi bod gor-derbyniaeth at statws swyddogol ac addysg heb bod hynny'n cael ei drosglwyddo i defnydd iaith cyson ar lefel cymunedol yn mynd i gwneud fwy o niwed na lles i pa bynnag iaith lleiafrifol sydd dan sylw (gan gynnmwys y Gymraeg.) Ac felly, er bod statws ac addysg yn pwysig, mae cefnogaeth a defnydd iaith oddi wrth pawb, o'r werin i fynnu at ac yn gynnwys y Llywodraeth yn pwysicach fyth.

Wrth imi ystyried sut mae statws y Gymraeg wedi ddatblygu o cyfnod y Deddfau Uno hyd heddiw, mae yna thema gyffredin. Deddfwriaeth sydd (yn bennnaf) wedi ei hanelu at Uchelwyr, ac wedyn y dosbarth canol (wrth i'r fath deddfwriaeth cynnig swyddi sector gyhoeddys i'r grwpiau hyn) ac yn gynnyddol yng Nghaerdydd heddiw, oedd llawer o'r ddeddfwriaeth hefo ddim diddordeb yn defnydd iaith y werin (heblaw am deddfau addysg y bedwaredd ganrif ar bymtheg decin i). Yn wir o 1536, ddaru o cymryd tan diwedd yr ugeinfed ganrif i'r Llywodraeth Prydeinig sicrhau bod pob Cymro yn medru Saesneg (oes gen unrhywun tystiolaeth i'r gwrthwyneb? Mae gen i diddfordeb arbennig yn siaradwyr uniaith y Gymraeg). Me hyn yn awgrymu imi, hyd yn oed hefo statws swyddogol, fydd hi'n cymryd sawl ganrif, os ddigwiddith o o gwbl yn anffodus i'r fwyafrif o Gymry dod yn ddwyieithog heb annogaeth defnydd ar lefel cymunedol tu allan i'r ystafell dosbarth efallai.

Felly, i gloi, er fy mod i'n edmygu ymdrechion Kontseilua i ceisio sicrhau statws swyddogol i'r Fasgeg, oherwydd mae gen statws swyddogol y gallu i bod yn hwb sylweddol i unrhyw iaith lleiafrifol, credaf mae'n hollbwysig i unrhyw mudiad sy'n ceisio hybu defnydd unrhyw iaith lleiafrifol ceisio canolbwyntio mwy ar cymunedau a phobl ifanc a cheisio annog nhw i defnyddio'r iaith a'i throsglwyddo i'r genhedlaeth nesaf, yn enwedig yn cadarnleoedd yr iaith, a dyna pam dwi'n cefnogi'r syniad o swyddi ble mae'r Gymraeg yn hanfodol (ee Radio Cymru, S4C, yn ogystal a'r sefydliadau eraill) cael eu chanoli yn ardaloedd ble mae'r iaith yn weddol gryf. Yn ogystal wrth gwrs mae angen fwy o dai fforddiadwy a fwy o resymau yn gyffredinol i annog siaradewyr i aros yn ardaloedd Cymraeg.

Ddrwg gen i am y rant, ac dwi'n edrych ymlaen at eich sylwadau. :)

O.N. Gyda llaw, dwi ddim yn gwrthwynebu statws swyddogol yn y gwledydd dwi wedi trafod, mond y diffyg canolbwyntio ar cymunedau a defnydd iaith ar lawr gwlad. Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-69213849909826754042012-06-10T14:27:00.001+01:002012-06-10T14:27:09.826+01:00Helo, fi sy' 'ma...Dwi'n gwybod nag ydw i wedi postio fawr o ddim byd ers mis Medi'r llynedd, ond roeddwn i'n brysur yn y Prifysgol yn sgwennu aseiniadau ayyb. Ond dwi wedi darfod ym Mangor bellach ac mi fyddai'n ceisio blogio mor gymaint ag y fedrai o hyn ymlaen.

O.N. Gyda llaw, dwi ddim yn hollol sicr os ydw i wedi nodi hyn o'r blaen neu peidio ond, mae'n ddrwg gen i os oes yna, neu os fydd yna, unrhyw camdreiglo/sillafu yn unrhywbeth dwi'n postio, dwi heb wedi arfer ysgrifennu yn y Gymraeg ers imi gadael yr ysgol saith mlynedd yn ol. Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-9551402270006160812011-09-26T19:36:00.002+01:002011-09-26T19:38:16.103+01:00Canolfan Gymraeg newydd i WrecsamYn gyntaf, hoffwn ymddiheuro am y ddiffyg o bostiau sydd wedi bod ers y rhai ddwythaf. Ond gan fy mod i'n nol yn y brifysgol rwan, bydd llai o amser gen i i flogio drost y flwyddyn nesaf.

Rwan 'ta, yn ol at prif bwriad y post hwn. Yn ol erthygl fan hyn, mae rhagor o cyfarfodydd wedi bod yn cymryd lle ynglyn a'r Canolfan Gymraeg newydd yn Wrecsam. Er fy mod i'n bersonnol yn ffafrio'r syniad o ganolbwyntio ar adfywio'r iaith yn siroedd megis Sir Fon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin, ac wedyn adfywio'r iaith yn ardaloedd fwy Saesneg, dwi'n meddwl mae hyn yn ddatblygiad arwyddocaol dros ben. Dwi'n credu hyn oherwydd, hyd yn oed tu allan i'r Fro Gymraeg, mae'n hanfodol i sicrhau mae yna llefydd i siaradwyr Cymraeg (rhai mamiaith a ddysgwyr) ddod at eu gilydd mewn rhanbarthau o Gymru lle nac ydi'r iaith mor "amlwg" fel petai. Mae canolfan o'r fath hefyd yn bwysig oherwydd mae yna cyfle hollbwysig i ddysgwyr a siaradwyr sydd wedi elwa o'r sustem addysg cyfrwng Cymraeg cael cyfla i defnyddio'r iaith mewn sefyllfa fwy anffurddiol er fwyn iddynt gallu sylweddoli mae'r iaith Gymraeg yn iaith fyw sydd yn gallu cael ei defnyddio tu allan i'r ystafell dosbarth.

Pob hwyl Wrecsam!Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-14514623937821684602011-09-18T10:33:00.000+01:002011-09-18T10:33:06.740+01:00Ail-ddechra yn y brifysgol fel myfyriwr MA.Rydw i'n fynd i ddychwelyd i Brifysgol Bangor heddiw fel myfyriwr MA mewn Polisi a Chynllunio Ieithyddol. Gan ystyried fy mod i eisioes wedi graddio fel myfyriwr is-raddedig ar ol treilio 4 blynedd ym Mangor, mae'n teimlo'n diarth dros ben fy mod i'n mor nerfus. Ta waeth, dwi'n sicr y byddai wedi setlo cyn bo hir.Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-52109927849993713742011-09-18T10:26:00.000+01:002011-09-18T10:26:33.533+01:00Ddamwain CilybebyllHoffwn ddatgan fy mod i'n cyd-ymdeimlo'n fawr iawn gyda teuluoedd y 4 wnath farw yn y ddamwain yng Nghwm Tawe. Mae rhaid ei fod o'n rhywbeth eithriadol o annodd i ymdopi hefo, ond dwi'n siwr wneith y gymuned tynnu at eu gilydd er fwyn gefnogi eu gilydd.Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-88616067849595777472011-09-07T15:49:00.000+01:002011-09-07T15:49:56.506+01:002 achos o bryder i'r iaith Gymraeg heddiwMae yna 2 erthygl ar wefan Golwg360 heddiw sydd yn gwneud imi poeni unwaith yn rhagor am ddyfodol yr iaith Gymraeg oherwydd sawl ffactor, ond y prif ffactor yn y 2 erthygl yn fy marn i yw ddiffyg awydd intergreiddio.

Yn gyntaf, mae'n gywilyddys imi ddarllen yma bydd ddim rhaid i perchnogion newydd Radio Ceredigion ddarlledu yn y Gymraeg. Yn fy marn i, mae hyn yn ddangos yn glir bydd rhaid i bobl leol ceisio cymeryd y drwydded drosodd os fydd 'na unrhyw gobaith cynnal gwasanaeth ddwyieithog neu mae yna peryg na fydd yr orsaf yn wasaneuthu 52% o'r boblogaeth y sir yn deg trwy peidio cynnal gwasanaeth ddwyieithog.

Yn ogystal, mae yna erthygl arall yn fama sydd yn achosi imi poeni oherwydd yn bennaf fydd 'na ddim modd i bobl lleol prynnu tai yn eu ardaloedd enedigol oherwydd prisiau sydd yn llawer rhy uchel a chyflogau'n llawer rhy isel. Fel rhywun sydd yn ddwad o Eryri dwi'n gwybod yn iawn bod mae yna gormod o tai wedi cael eu brynnu fel ail gartrefi/tai haf. Yn ogystal, fel sydd yn gael ei nodi yn yr erthygl, mae yna gormod o pobl ifanc symyd allan ac lot rhy gormod o pobl hen sydd yn symyd i'r ardal sydd, ar y cyfan yn gwrthod intergreiddio na ddysgu'r iaith yn gyfan gwbwl. Dwi'n gobeithio ddarfod yn y Brifysgol y flwyddyn nesaf, cael gwaith a cael cartref fi'n hyn, ond tydi o ddim yn edrych yn debyg y fydd o'n bosib oherwydd yr hyn sydd eisioes wedi cael ei nodi yn yr erthygl. Ble mae'r tecwch, ac yn pwysicach fyth, beth mae'r ASau/ACau sydd yn cynrychioli'r ardal, yn ogystal a'r parc cenedlaethol, yn mynd i gwneud am y peth?? Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com2tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-84625773080435306702011-09-01T15:05:00.001+01:002011-09-01T15:08:15.050+01:00Elin Jones yn gyhoeddi ei fwriad i sefyll fel ymgeisydd i arwain y Blaid.Er fy mod i wedi nodi mewn post yn y gorffennol (yn mis Gorffenaf dwi'n meddwl) y rhesymau drost peidio ethol Elin Jones fel arweinydd nesaf Plaid Cymru, mae 'na pethau dda ei fod hi wedi gyhoeddi ei bwriad i ymgeisio. Yn gyntaf wrth gwrs, mae'n bosib i aelodau'r Blaid cynnal trafodaeth go iawn rwan bod rhywun arall heb law am Dafydd Elis-Thomas wedi cyhoeddi bwriad i ymgeisio.

Rheswm arall y bydd o les i'r trafodaeth ydi'r ffaith bod Elin wedi son am annibyniaeth. Er fy mod i yn personol yn credu ddylwn ni cael fwy o pwerau er fwyn profi i pobol Cymru mae'n posib i'r Cymry rhedeg Cymru'n well 'na San Steffan cyn trafod annibyniaeth ar lefel cenedlaethol, dwi'n falch fod mae'r gair "annibyniaeth" hefo cyfle i ddod i fewn i'r ddadlau drost y misoedd nesaf, oherwydd dwi'n teimlo mae rhaid i'r Blaid fod ychydig fwy onest am y ddyfodol mae nhw eisio i Gymru.

Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-91708956921986786582011-09-01T14:52:00.000+01:002011-09-01T14:52:28.868+01:00Grwpiau Rhanbarthol Llywodraeth lleolYn ol yr erthygl canlynol o'r wefan y BBC: http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9570000/newsid_9577500/9577564.stm mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu ad-drefnu llywodraeth lleol fewn i chwe rhanbarth gwahanol a wneith rhannu cyfrifoldeb mewn meusydd megis addysg a gofal cymdeithasol.

Rwan 'ta, er gwaetha'r ffaith mai ddim ond braslun yw'r cynllun, ac dwi yn cytuno mae rhaid ad-drefnu llywodraeth lleol i raddfau, dwi'n teimlo y mae'r cynllun presennol yn un wael dros ben a wneith, fel sydd yn cael ei nodi yn yr erthygl, creu dryswch ymysg y cyhoedd ynglyn ag atebolrwydd am polisiau gwahanol. Er enghraiff, yn rhanbarth y gogledd, sut wneith hyn effeithio ar addysg cyfrwng Cymraeg os oes rhaid i cyngor Sir Fon cyd-weithio gyda cyngor Sir y Fflint, neu sut wneith iechyd cael ei effeithio os oes rhaid cael polisi gyffredin.

Credaf efallai bysaf o'n syniad ystyried rhywbeth yn debyg i'r drefn roedd yn bodoli rhwng y 70au a 1996 (gyda ambell i newid, e.e. cynghorydd dinasoedd ar wahan.) Credaf y fantais fwyaf hefo ffasiwn drefn bysaf lleihau'r rhanbarth gogleddol, sydd, yn ol y braslun, yn rhy eang yn fy marn i.

Ond, ar y cyfan, bydd rhaid i ni gyd aros er fwyn gweld sut wneith y cynlluniau ddatblygu. Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-54686710536119725932011-08-31T22:57:00.000+01:002011-08-31T22:57:49.810+01:00Adolygiad: Parallel Text: Nouvelles en Francais.Dwi wedi bod yn ddarllen yr llyfr hwn yn ddiweddar am rhesymau weddol debyg i fy rhesymau drost darllen "A Little Book of Language" gan David Crystal, h.y. diddordeb. Yn ogystal a ddiddordeb yn Ieithyddiaeth, dwi wedi ymddiddori yn yr iaith Ffrangeg ers imi ddechrau ei ddysgu fel 3ydd iaith ar ol imi ddechra yn yr ysgol uwchradd.

Erbyn hyn wrth gwrs dwi newydd wedi darfod fy astudiaeth o'r iaith Ffrangeg yn y prifysgol eleni, ac felly, yn gyntaf, dyma'r llyfr delfrydol (ar hyn o bryd) i helpu fi cadw'r sgiliau ieithyddol dwi wedi datblygu drost y flynyddoedd. Hefyd, dwi'n rhywun sydd yn hoffi ddarllen llyfrau, ac dyma'r llyfr gyntaf yn Ffrangeg dwi wedi llwyddo brynu hyd yn hyn, gan nag oes modd cael hyd i llyfrau sydd wedi eu sgwennu yn yr iaith Ffrangeg yma yng Nghymru yn hawdd iawn (felly, os oes 'na rhywun sydd yn gwybod ble fedrai ffeindio rhagor o lyfrau yn yr iaith hon, byswn i'n wir yn werthfawrogi'r cymorth.)

Cyn bellad a mae'r straeon yn y cwestiwn, straeon fer ydi nhw gyd (heb law am 1, yn fy marn i mae'r un yma fwy fel nofel fer.) Mae hyn yn ddefnyddiol iawn ar y cyfan. Rhywbeth arall sydd yn defnyddiol iawn ydi'r cyfieithiad Saesneg sydd ar y tudalen gyferbyn i'r un Ffrangeg, er dwi'n trio peidio defnyddio nhw mor gymaint, ond mae'n anoddach peidio gwneud wrth i'r straeon fynd yn fwy cymhleth cyn bellad a mae'r iaith anoddach yn y cwestiwn.

Felly, ar y cyfan, er mae gan y straeon tueddiad ar y cyfan i cael diweddglo weddol tywyll a negyddol, er gwaethaf hyn, teimlaf mae'r llyfr hwn yn defnyddiol ar gyfer myfyrwyr yr iaith Ffrangeg sydd eisio gwella eu sgiliau darllen ac ysgrifennedig. Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-11150698173567388442011-08-29T20:39:00.000+01:002011-08-29T20:39:09.597+01:00Adolygiad: A Little Book of Language, gan David Crystal.Gan fy mod i'n ymddiddfori mewn Ieithyddiaeth, ddaru fi ffeindio'r llyfr hwn yn ddiddforol dros ben ar y chyfan. Yn ogystal, teimlaf mae'r llyfr hwn yn ddigon ysgafn hefyd i ddenu sylw a chadw ddiddfordeb pobl sydd ddim wrth rheswm hefo chefndir academaidd mewn Ieithyddiaeth. Felly dda iawn David Crystal!

O'r pennodau ble ddaru'r awdur esbonio sut mae babanod a phlant ifanc yn ddysgu ieithoedd wahanol, ddwyieithrwydd yn ogystal a hanes ddatblygiad iaith fel rydan ni'n ei nabod hi heddiw a ddatblygiad sgwennu mewn sawl ieithoedd, mae yna sawl pennodau'r llyfr wneith ddenu sylw ei ddarllenwyr am nifer o rhesymau gwahanol.

I fi yn personol, mae'r pennod terfynnol, sydd yn ymdrin a'r agweddau gwahanol o byd ieithyddol pobl, mae'r awdur yn rhestru 6 o bethau wahanol sydd efallai yn berthnasol i pobl wahanol. O safbwynt finnau, mae'r pwyntiau ynglyn a'r pwysicrwydd o ddysgu ieithoedd gwahanol, yn ogystal a'r pwyntiau sydd yn ymdrin a ieithoedd sydd o fewn beryg o farw allan, a ieithoedd lleiafrifol. Mae'r 2 bwynt olaf yn bwysig dros ben i fi gan ystyried fy mod i eisio ddilyn gyrfa yn y maes Polisi a Chynllunio Ieithyddol yma yng Nghymru.

Felly, i gloi, dwi'n teimlo mae'r llyfr hwn yn sicr yn werth ddarllen os oes ganddoch chi ddiddfordeb mewn agweddau wahanol o ieithyddiaeth ac iaith yn gyffredinol.

Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-71550900114428985622011-08-27T10:54:00.001+01:002011-08-27T10:55:47.765+01:00Rhaglenni'r Haf ar S4C a ddysgwyr.Ar y cyfan, mae adegau pryd dwi eisio adolygu rhaglenni S4C yn brin iawn, ond, o rhan rhaglenni ar gyfer ddysgwyr, dwi'n teimlo fel mae rhaid rhoi rhywfaint o sylw i'r rhaglenni unigol sydd wedi cael eu ddarlledu drost yr Haf eleni.

Cystadleuaeth Ddysgwyr Y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol. Er fy mod i eisioes wedi sgwennu post yn ddymuno llongyfarchiadau i enillydd y cystadleuaeth eleni, dwi eisio nodi fy mod i'n teimlo mae'r cystadleuaeth hon yn un arbennig o dda i ddangos bod mae gen pobl ddifordeb mewn ddysgu'r iaith i safon uchel iawn (ac ei fod hi'n bosib ei ddysgu i safon uchel), ac o safbwynt finna fel Cymro-Cymraeg, mae'n calonog iawn i gweld y ffasiwn pobl yn ceisio ddysgu'r iaith, ac dwi'n gobeithio fydd nifer fawr o pobl yn bwrw mlaen gyda ddysgu'r iaith.

Cariad@Iaith: Cyfres arbennig o dda ar y cyfan ac rydw i'n gobeithio'n fawr wneith S4C penderfynnu i gynhyrchu cyfres yn flynyddol. Rydw i'n meddwl roedd y tiwtoriad yn rhagorol ac roedd y "celebs" yn brwd iawn. Mae'n calonog iawn unwaith eto i weld bod mae yna mor gymaint o ewyllus dda tuag at yr iaith yn ogystal a'r ffaith bod mae pobl o chefndiroedd wahanol yn fodlon ei ddysgu.

Welsh in a Week: Unwaith eto, cyfres arbennig o dda sydd yn ddangos bod mae yna nifer sylwyddol o pobl sydd yn awyddys i ddysgu'r iaith, nid er fwyn cwbwlhau tasgau'r wythnos yn unig ond, yn achos y cyfweliadau hefo ddysgwyr rhugl, mae'n calonog iawn ar y cyfan i weld pobl sydd yn mor fodlon i ceisio ddysgu'r iaith.

Ar y cyfan felly, dwi'n teimlo fel mae rhaglenni a'r ddigwyddiadau fel yr uchod yn werthfawr iawn, nid yn unig i ddysgwyr, ond er fwyn gadael i Cymry-Cymraeg rhugl gwybod y mae yna pobl sydd yn fodlon ddysgu'r iaith. Yn ogystal, teimlaf mae'r rhaglenni'n hysbysebiad dda i'r iaith ar gyfer pobl ddi-Gymraeg sydd efallai eisio ei ddysgu (ond, os felly, teimlaf efallai fydd rhaid hysbysebu nhw yn y ddyfodol ar sianeli megis BBC 1 a 2 ac ITV er fwyn ddenu fwy o bobl i gwylio nhw.)

Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-70131348178489890342011-08-25T13:03:00.000+01:002011-08-25T13:03:11.127+01:00Canlyniadau: TGAUHoffwn ddymuno llongyfarchiadau i bawb sydd wedi llwyddo heddiw, yn enwedig gan ystyried y chynydd sydd wedi bod mewn canran y ddisgyblion llwyddiannus. Er gwaethaf hyn, teimlaf mae rhaid i ysgolion ledled Cymru, yn ogystal a Llywodraeth Cymru, gwneud rhagor er fwyn cau'r bwlch sydd eisioes yn bodoli rhwng bechgyn a merched o ran y canlyniadau gorau, yn ogystal a'r bwlch rhwng Cymru ac ar ochr arall o glawdd Offa.

Ond, mae yna rhywbeth tydw i ddim yn ddeall yn iawn ynglyn a'r canlyniadau'r flwyddyn hon. Yn ol yr erthygl yma o golwg360: http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/47729-tgau-llai-yn-astudio-ieithoedd mae yna pethau diddforol yn cael ei nodi ynglyn a Cymraeg a gwyddoliaeth. Yn gyntaf, sut ydi o'n bosib i gynydd bodoli yn nifer ddisgyblion sydd yn sefyll arholiadau Gwyddoniaeth os mae'r pwnc yn un craidd, ac felly mae rhaid i pob ddisgybl sefyll arholiad yn y pwnc? Yn ogystal, sut fedrith 'na bod cwymp yn y nifer sydd yn sefyll arholiadau Cymraeg (iaith 1af ac ail iaith) os mae'r pwnc wedi bod yn pwnc ar amserlen ysgol pob ddisgybl ers 1999? Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-15871708483237624182011-08-22T13:27:00.000+01:002011-08-22T13:27:22.679+01:00Addysg ddwyieithog? Yr iaith Gymraeg yn y Fro GymraegAr ol imi ddarllen 2 flog yr oedd yn trafod y pwnc yma heddiw, teimlaf fel dylswn i ysgrifennu am fy mhrofiad i o dderbyn addysg "ddwyieithog" yn Gwynedd.

I gychwyn, mae rhaid i fi nodi er fy mod i am son am y ffaith nad ydi ysgolion, yn fy marn i, yn gwneud digon i sicrhau bod plant o gartrefi Saesneg eu iaith yn dod yn rhugl yn y Gymraeg, (ond, ar y llaw arall maent yn gwneud popeth posib i sicrhau bod y Cymry Cymraeg yn ddwyieithog) mi oeddwn i'n un o'r disgyblion roedd yn dod o aelwyd Saesneg am rhesyma weddol cymleth (er, mae gen i aelodau'r teulu sydd yn Cymry Cymraeg, ac sydd wedi synnu faint mor rhugl ydw i.) Roeddwn i'n teimlo roedd rhaid i fi dysgu sut i siarad yr Gymraeg yn rhugl o'r ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol, rhywbeth sydd amwn i yn brin iawn y dyddiau hyn yn y Fro Gymraeg.

Yn yr ysgol gynradd (Ysgol Tan Y Castell yn Harlech) roedd y ddisgyblion yn ddysgu y Gymraeg y weddol dda ar y cyfan ond am rhyw reswn, doedd ganddynt ddim hyder i siarad yr iaith tu allan i'r ystafell dosbarth, ond dwi'n teimlo roedd hyn oherwydd y ffaith roedd athrawon yn cyfnod allweddol 2 yn rhoi gormod o bwyslais ar y Saesneg. Credaf roedd hyn yn golygu er ddoth y plant o gartrefi Cymraeg yn rhugl iawn yn y Saesneg, doedd y gyferbyn ddim yn wir o bellffordd.

Yn yr ysgol uwchradd (Ysgol Ardudwy, Harlech) unwaith eto, dwi'n teimlo roedd yna gormod o bwyslais ar y Saesneg, er roedd yr ysgol i fod yn ysgol ddwyieithog roedd dim on 50-70% o'r ddisgyblion yn medru siarad y Gymraeg (ond mi oedd yna'r ddiffyg hyder defnyddio'r Gymraeg yn bodoli unwaith eto gan doedd staff yr ysgol ddim yn annog ehangu'r defnydd o'r Gymraeg ymysg y ddisgyblion tu allan i wersi Cymraeg). Roedd yna nifer o staff ddysgu doedd methu siarad Gymraeg o gwbwl, neu oedd hefo Cymraeg wael iawn (nifer sydd wedi, yn ol y son wedi cynyddu yn diweddar.) Roedd hyn yn olygu doedd hi ddim yn posib astudio Hanes er engraifft trwy gyfrwng y Gymraeg (mae pennaeth newydd yr adran Hanes yn siarad y Gymraeg fel mamiaith erbyn hyn). Yn ogystal, pryd doth y brofion statudol ym mlwyddyn 9, roedd yna prinder o papurau prawf yn y Gymraeg roedd yn olygu roedd rhaid imi wneud y prawf yn Saesneg, er roeddwn i wedi astudio'r pwnc yn gyfan gwbwl trwy'r Gymraeg ynghynt.

Ddaru hyn golygu ges i fy ngorfodi i astudio'r pwnc trwy'r Saesneg am sbel ond ar ol rhywfaint o dadlau hefo'r staff ddaru fi ail-ddechra astudio'r pwnc yn y Gymraeg. Yn ogystal, yn flynyddoedd 10 ac 11, yn ambell i pwnc "dwyieithog" roedd y trafodaeth i gyd yn Saesneg gan roedd yna lleiafrif doedd methu siarad Cymraeg.

Felly, ar ol edrych ar fy mhrofiadau addysgiadol, dwi'n credu'n gryf mae rhaid i fwyafridd llethol o ysgolion yn Gwynedd o leiaf (heb law am ysgol Friars ym Mangor) bod ysgolion penodedig Cymraeg, yn enwedig gan ystyried y Seisnigeiddio sydd wedi digwydd dros y flynyddoedd sydd yn golygu does yna ddim modd yn y fwyafrif o lefydd yn y Sir (a'r Fro Gymraeg yn gyffredinol) ble geith plant di-Gymraeg ddod yn rhugl trwy "osmosis." Felly, dwi'n teimlo mae rhaid i ysgolion gynradd ac uwchradd (yn ogystal a'r canolfannau iaith) gwneud fwy o ymdrech i drochi plant yn yr iaith Gymraeg gan, yn fy marn i, wrth ystyried y cyfryngau, yn enwedig teledu, y we, cerddoriaeth poblogaidd yn ogystal a poblogrwydd diwilliant Eingl-Americanaidd, does ddim modd yn 2011 i plentyn Cymraeg iaith gyntaf yn y Fro Gymraeg osgoi ddysgu Saesneg, felly, er mae rhaid cynnal wersi Saesneg yn yr ysgol er fwyn ddysgu'r iaith safonol i'r plant, teimlaf mae rhaid rhoi llawer fwy o bwyslais ar y Gymraeg yn y sector cynradd ac uwchradd yn y Fro Gymraeg.

Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com2tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-73911176545213271782011-08-18T11:23:00.000+01:002011-08-18T11:23:01.162+01:00CanlyniadauHoffwn heddiw i ddymuno pob lwc a llongyfarchiadau ar gyfer pawb sydd yn cael eu chanlyniadau lefel A heddiw. Er fy mod i wedi graddio erbyn hyn dwi'n cofio sut roeddwn i'n teimlo pedair flynedd yn ol yn glir iawn. Felly llongyfarchiadau a phob lwc ar gyfer y dyfodol. Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-88285510619801743762011-08-16T12:03:00.000+01:002011-08-16T12:03:42.840+01:00Trefn lleoliadau'r Eisteddfod GenedlaetholYn gyntaf, hoffwn nodi mi fyddai'n trio flogio ychydig fwy rheolaidd o hyn ymlaen, ac yn ogystal, hoffwn nodi os oes yna camgymeriadau sillafu/treiglo yn y postiau, mae hynny oherwydd dwi heb wedi ysgrifennu yn y Gymraeg yn rheolaidd ers imi gadael ysgol chwe mlynedd yn ol.

Ta waeth, prif pwnc y post heddiw ydi drefn lleoliadau'r Eisteddfod Genedlaethol o'r un flwyddyn i'r llall. Ar y cyfan dwi'n meddwl mae'r system o symud o'r gogledd i'r dde un flwyddyn ar ol y llall yn system teg, ac felly dwi ddim yn ddeall y rhesymeg dros cynnal yr Eisteddfod yn y de am ddwy flynedd un ar ol y llall (h.y. 2014/15 Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy.)

Rwan 'ta, wrth gwrs mae'n hollol deg i Sir Gar cynnal yr Eisteddfod y flwyddyn ar ol Sir Ddinbych, er fwyn cadw at yr drefn trafodiadol, ac wrth gwrs mae'n peth dda ar gyfer Cymreictod yr ardal os mae Sir Fynwy'n fodlon cynnal yr Eisteddfod, ond ar yr un adeg, dwi'n meddwl ei fod o'n anheg ar siroedd y Gogledd (Sir Fon a Chonwy) sydd heb wedi cynnal yr Eisteddfod drost y degawd ddwythaf.

Wrth gwrs, os oes yna rhesymau ariannol sydd yn olygu fysaf o'n amhosib i'r ardaloedd y nodwyd cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol, mae hynny'n hawdd i'w ddeall ac os felly, teimlaf bysaf o'n mond yn deg felly i'r Eisteddfod cael ei chynnal yn y Canolbarth (h.y. Ceredigion neu Powys.) Fy rhesymeg drost hyn ydi tydi'r un awdurdod na'r llall wedi cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddiweddar chwaith (er mae Ceredigion wedi cynnal Eisteddfod yr Urdd, ac felly efallai mae Powys ydi'r ddewis doeth.) Yn ogystal wrth gwrs efallai fysaf o'n fwy cyfleus o ran teithio ar gyfer pobol y gogledd a'r de tasa'r Eisteddfod yn dod i'r Canolbarth.

Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-3103497128538048492011-08-05T14:03:00.000+01:002011-08-05T14:03:53.347+01:00Addysg Gymraeg yn "anfantais academaidd a chymdeithasol"!!!Ddaru'r erthygl yma o golwg360: http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/46025-gwario-arian-cyhoeddus-i-osgoi-addysg-gymraeg neud i mi teimlo'n mor flin fel roeddwn i'n teimlo roedd rhaid imi sgrifennu rhywbeth.

Yn gyntaf, yn sicr, mae'n gywilyddus bod yr RAF yn defnyddio pres trethdalwyr er mwyd anfon 52 o blant i ysgolion preifat ym Mangor, ond teimlaf bod y rhesymeg yn waeth fyth. Hynny yw, ei fod nhw'n meddwl mae addysg ddwy-ieithog yn anfantais addysgiadol a chymdeithasol!! Dwi'n meddwl mae Llyr Huws Gruffydd yn gwbwl gywir ynglyn a'i ymateb. Ac yn sicr, credaf mae'r RAF yn gwbwl hyrt yn aros mewn lefydd Gymraeg eu iaith os oes ganddynt nhw problemau hefo polisiau addysgiadol y sir.Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-24169172285958019312011-08-05T13:48:00.000+01:002011-08-05T13:48:06.802+01:00Simon yn ddangos arweinyddiaeth yn barod?Dwi newydd wedi edrych ar yr erthygl canlynol o wefan golwg360: http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/45935-galw-am-ddatganoli-pwerau-dros-yr-heddlu ac mae'n edrych yn debyg imi bod, wrth son am petha megis ddatganoli pwerau drost yr heddlu, carchardai ayyb, mae Simon Thomas yn ddangos ei gallu i trafod materion weddol pwysig, yn ogystal a'i allu i arwain trafodaeth ar y pynciau hyn. Arwydd bod y fo fydd dewis clir i arwain y Blaid y flwyddyn nesaf efallai? Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-11451993066940706032011-08-05T13:35:00.000+01:002011-08-05T13:35:50.655+01:00Dysgwr y Flwyddyn 2011Llongyfarchiadau i Kay Holder am lwyddo yn y cystadleaeth y flwyddyn hon. Ond mae'n rhaid i mi dweud, er yn amlwg roedd hi'n heuddu ennill, dwi'n ofni wneith hyn rhoi'r argraff anghywir i pobol sydd yn bwriadu dysgu'r iaith, h.y. wneith pobol dechra meddwl fod yr unig fath o pobol sydd yn medru dysgu'r Gymraeg ydi rhai sydd eisioes wedi lwyddo i ddysgu dwy neu tair iaith yn lwyddianus cyn symud ymlaen i'r Gymraeg, ond efallai fy mod i'n anghywir.

Ta waeth, llongyfarchiadau unwaith yn rhagor Kay!

Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com0tag:blogger.com,1999:blog-3346029099066644140.post-40845236857079641882011-07-31T17:53:00.000+01:002011-07-31T17:53:48.902+01:00Dysgu'r LlydawegTybed os oes rhywun fedrith helpu fi o gwbwl? Ar hyn o bryd dwi'n ymgeisio ddysgu Llydaweg yn fy amser rhydd, ac mae gen i llyfr da iawn ar gyfer ddechreuwyr, sef "Colloquial Breton: A Conmplete Course for beginners." Rwan ta, er fy mod i mond ar dechra fy nhaith o ddysgu'r iaith, rydw i eisioes yn tybio sut i bwrw mlaen unwaith fyddai wedi darfod y cwrs. Hynny yw, dwi heb wedi darganfod cyrsiau pellach yn y Llydaweg, er fy mod i wedi darganfod ambell i lyfr gramadeg a geiriadur. Felly os oes yna rhywun sydd yn gwybod os oes yna cysiau pellach yn bodoli er mwyn i fi bwrw mlaen hefo fy astudiaeth o'r iaith, byswn i'n wir yn werthawrogi cael gwybod amdanynt.

Diolch

Gog Amlieithog Gog Amlieithoghttp://www.blogger.com/profile/10780361137369911315noreply@blogger.com1