Monday 25 July 2011

Arweinyddiaeth Plaid Cymru

Dwi newydd wedi darllen yr erthygl canlynol http://www.walesonline.co.uk/news/welsh-politics/welsh-politics-news/2011/07/23/party-veteran-a-safe-pair-of-hands-and-even-non-welsh-speakers-all-contenders-for-leadership-91466-29105461/ ynglyn a aelodau sydd efallai yn debygol i geisio fod yn arweinydd newydd i'r Blaid y flwyddyn nesaf, ac yn meddwl bod yr ddisgrifiadau o'r aelodau'n diddfyr, er efallai dwi'n anghytuno hefo rhai sylwadau ac felly, rydw i am rhoi fy marn personol ar yr aelodau yn yr erthygl, yn ogystal ar y rhai yn y grwp sydd heb wedi cael eu nodi.

Dafydd-El : Er y mai o ydi'r unig un hyd yn hyn sydd wedi ddweud yn bendant ei fod o am sefyll, dwi yn meddwl y mae yna rhesymau ddigon dilys dros peidio ethol o fel arweinydd newydd. Yn gyntaf, fel sydd eisioes wedi cael ei nodi yn yr erthygl, mae ei oedran yn wendid mawr, yn enwedig gan ystyried y fydd o'n 69 erbyn yr etholiad nesaf i'r Cynulliad. Yn ogystal, wrth gwrs mae o eisioes wedi bod yn arweinydd i'r Blaid yn y gorffennol, ac felly teimlaf fydd y Blaid yn cymryd cam yn ol tasa Dafydd-El yn cael ei ail-ethol fel arweinydd.

Elin Jones: Oni bai am y ffaith y mae hi wedi bod yn Wenidog dros faterion gwledig rhwng 2007-11 yn ogystal a AC ers 1999 ac felly ma'i hefo profiad sylweddol, dwi ddim yn sicr o sut fysa'r Blaid yn elwa hefo Elin Jones wrth y llyw, ond efallai fy mod i wedi methu rhywbeth amlwg...

Simon Thomas: Dwi'n meddwl er mae o mond wedi bod yn AC ers mis Mai, mae'r ffaith ei fod o wedi bod yn AS, yn ogystal a'r ffaith ei fod o'n cynrychioli etholaeth weddol eang yn golygu bysa Simon yn dewis dda, gan tydi ddim yn cynrychioli'r "gogs" na'r "hwntws" yn unig. Yr unig peth dwi ddim yn ddallt ydi sut ei fod o'n dewis dadleuol, fel sy'n cael ei awgrymu yn yr erthygl. I fi, mae o'n edrych fel dewis ddigon saff (er, gan cadw mewn co'r canlyniadau'r etholiad i Nick Bourne, does ddim sicrwydd wneith o cadw ei sedd yn y dyfodol chwaith.)

Jocelyn Davies: Hyd a gwn i, mae Jocelyn yn AC dda ar y cyfan. Yr unig peth sydd yn edrych fel anhawster iddi hi o safbwynt dod yn arweinydd i'r Blaid ydi'r ffaith tydi hi ddim yn medru'r Gymraeg. Yn personol, dwi ddim yn weld hyn fel wendid fawr, ond wrth gwrs fedrai dallt yn iawn pam na fysa nifer o aelodau'r Blaid yn fodlon cael arweinydd di-Gymraeg. Ond cawn ni weld be wneith digwydd.

Rhodri Glyn Thomas: Dwi'n meddwl fysa Rhodri'n ddewis dadleuol iawn gan ystyried ei record mewn Llywodraeth. Yn ogystal, dwi'n meddwl, unwaith eto bod angen rhywun ychydig yn iau i arwain y Blaid.

Leanne Wood: 2 air "Mrs Windsor." Ka-ching. O ddifrif rwan, dwi'n meddwl efallai bysa Leanne yn gallu bod yn dewis dda gan ystyried y ffaith tydi hi ddim yn siarad Cymraeg, yn ogystal a'r ffaith fod hi'n dod o'r Cymoedd (eto, gan ystyried angen y Blaid i apelio fwy at Cymry di-Gymraeg yn ogystal a Chymry-Cymraeg.) Ond wrth gwrs, efallai 'sa Leanne yn dewis dadleuol iawn hefyd, gan ystyried y petha dadleuol mae hi 'di ddweud yn y gorffennol. Hefyd, cafodd hi erioed rol sylweddol i chwarae rhwng 2007-11 ac felly, does ddim tystiolaeth o faint mor dda bysa hi yng Nghabinet y Cynulliad

Llyr Huws Gruffydd: Wrth gwrs mae Llyr wedi dweud yn bendant na fydd o'n ymgeisio fod yn arweinydd y flwyddyn nesaf, ond eto, mae'n edrych i fi fod o'n ddatblygu i fod yn AC dda.

Alun Ffred Jones: Eto, credaf fod Alun Ffred yn rhy hen ac mae angen aelod iau i arwain y Blaid.

Lindsay Whittle: Dwi ddim yn gwybod lot amdano i ddweud y gwir ac ta beth, fel Llyr, gan ei fod o'n aelod newydd, dwi ddim yn meddwl bysaf o'n dewis dda ar hyn o bryd.

Bethan Jenkins: AC dda iawn hyd a gwn i, ond dwi methu rhagweld Bethan fel arweinydd, na chwaith sut fath o arweinydd fysa hi.

Ar y cyfan felly, wrth edrych ar y aelodau hyn, dwi'n meddwl bysa Simon Thomas yn dewis doeth iawn fel arweinydd.     

No comments:

Post a Comment