Tuesday 16 August 2011

Trefn lleoliadau'r Eisteddfod Genedlaethol

Yn gyntaf, hoffwn nodi mi fyddai'n trio flogio ychydig fwy rheolaidd o hyn ymlaen, ac yn ogystal, hoffwn nodi os oes yna camgymeriadau sillafu/treiglo yn y postiau, mae hynny oherwydd dwi heb wedi ysgrifennu yn y Gymraeg yn rheolaidd ers imi gadael ysgol chwe mlynedd yn ol.

Ta waeth, prif pwnc y post heddiw ydi drefn lleoliadau'r Eisteddfod Genedlaethol o'r un flwyddyn i'r llall. Ar y cyfan dwi'n meddwl mae'r system o symud o'r gogledd i'r dde un flwyddyn ar ol y llall yn system teg, ac felly dwi ddim yn ddeall y rhesymeg dros cynnal yr Eisteddfod yn y de am ddwy flynedd un ar ol y llall (h.y. 2014/15 Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy.)

Rwan 'ta, wrth gwrs mae'n hollol deg i Sir Gar cynnal yr Eisteddfod y flwyddyn ar ol Sir Ddinbych, er fwyn cadw at yr drefn trafodiadol, ac wrth gwrs mae'n peth dda ar gyfer Cymreictod yr ardal os mae Sir Fynwy'n fodlon cynnal yr Eisteddfod, ond ar yr un adeg, dwi'n meddwl ei fod o'n anheg ar siroedd y Gogledd (Sir Fon a Chonwy) sydd heb wedi cynnal yr Eisteddfod drost y degawd ddwythaf.

Wrth gwrs, os oes yna rhesymau ariannol sydd yn olygu fysaf o'n amhosib i'r ardaloedd y nodwyd cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol, mae hynny'n hawdd i'w ddeall ac os felly, teimlaf bysaf o'n mond yn deg felly i'r Eisteddfod cael ei chynnal yn y Canolbarth (h.y. Ceredigion neu Powys.) Fy rhesymeg drost hyn ydi tydi'r un awdurdod na'r llall wedi cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddiweddar chwaith (er mae Ceredigion wedi cynnal Eisteddfod yr Urdd, ac felly efallai mae Powys ydi'r ddewis doeth.) Yn ogystal wrth gwrs efallai fysaf o'n fwy cyfleus o ran teithio ar gyfer pobol y gogledd a'r de  tasa'r Eisteddfod yn dod i'r Canolbarth.



No comments:

Post a Comment