Monday 22 August 2011

Addysg ddwyieithog? Yr iaith Gymraeg yn y Fro Gymraeg

Ar ol imi ddarllen 2 flog yr oedd yn trafod y pwnc yma heddiw, teimlaf fel dylswn i ysgrifennu am fy mhrofiad i o dderbyn addysg "ddwyieithog" yn Gwynedd.

I gychwyn, mae rhaid i fi nodi er fy mod i am son am y ffaith nad ydi ysgolion, yn fy marn i, yn gwneud digon i sicrhau bod plant o gartrefi Saesneg eu iaith yn dod yn rhugl yn y Gymraeg, (ond, ar y llaw arall maent yn gwneud popeth posib i sicrhau bod y Cymry Cymraeg yn ddwyieithog) mi oeddwn i'n un o'r disgyblion roedd yn dod o aelwyd Saesneg am rhesyma weddol cymleth (er, mae gen i aelodau'r teulu sydd yn Cymry Cymraeg, ac sydd wedi synnu faint mor rhugl ydw i.) Roeddwn i'n teimlo roedd rhaid i fi dysgu sut i siarad yr Gymraeg yn rhugl o'r ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol, rhywbeth sydd amwn i yn brin iawn y dyddiau hyn yn y Fro Gymraeg.

Yn yr ysgol gynradd (Ysgol Tan Y Castell yn Harlech) roedd y ddisgyblion yn ddysgu y Gymraeg y weddol dda ar y cyfan ond am rhyw reswn, doedd ganddynt ddim hyder i siarad yr iaith tu allan i'r ystafell dosbarth, ond dwi'n teimlo roedd hyn oherwydd y ffaith roedd athrawon yn cyfnod allweddol 2 yn rhoi gormod o bwyslais ar y Saesneg. Credaf roedd hyn yn golygu er ddoth y plant o gartrefi Cymraeg yn rhugl iawn yn y Saesneg, doedd y gyferbyn ddim yn wir o bellffordd.

Yn yr ysgol uwchradd (Ysgol Ardudwy, Harlech) unwaith eto, dwi'n teimlo roedd yna gormod o bwyslais ar y Saesneg, er roedd yr ysgol i fod yn ysgol ddwyieithog roedd dim on 50-70% o'r ddisgyblion yn medru siarad y Gymraeg (ond mi oedd yna'r ddiffyg hyder defnyddio'r Gymraeg yn bodoli unwaith eto gan doedd staff yr ysgol ddim yn annog ehangu'r defnydd o'r Gymraeg ymysg y ddisgyblion tu allan i wersi Cymraeg). Roedd yna nifer o staff ddysgu doedd methu siarad Gymraeg o gwbwl, neu oedd hefo Cymraeg wael iawn (nifer sydd wedi, yn ol y son wedi cynyddu yn diweddar.) Roedd hyn yn olygu doedd hi ddim yn posib astudio Hanes er engraifft trwy gyfrwng y Gymraeg (mae pennaeth newydd yr adran Hanes yn siarad y Gymraeg fel mamiaith erbyn hyn). Yn ogystal, pryd doth y brofion statudol ym mlwyddyn 9, roedd yna prinder o papurau prawf yn y Gymraeg roedd yn olygu roedd rhaid imi wneud y prawf yn Saesneg, er roeddwn i wedi astudio'r pwnc yn gyfan gwbwl trwy'r Gymraeg ynghynt.

Ddaru hyn golygu ges i fy ngorfodi i astudio'r pwnc trwy'r Saesneg am sbel ond ar ol rhywfaint o dadlau hefo'r staff ddaru fi ail-ddechra astudio'r pwnc yn y Gymraeg. Yn ogystal, yn flynyddoedd 10 ac 11, yn ambell i pwnc "dwyieithog" roedd y trafodaeth i gyd yn Saesneg gan roedd yna lleiafrif doedd methu siarad Cymraeg.

Felly, ar ol edrych ar fy mhrofiadau addysgiadol, dwi'n credu'n gryf mae rhaid i fwyafridd llethol o ysgolion yn Gwynedd o leiaf (heb law am ysgol Friars ym Mangor)  bod ysgolion penodedig Cymraeg, yn enwedig gan ystyried y Seisnigeiddio sydd wedi digwydd dros y flynyddoedd sydd yn golygu does yna ddim modd yn y fwyafrif o lefydd yn y Sir (a'r Fro Gymraeg yn gyffredinol) ble geith plant di-Gymraeg ddod yn rhugl trwy "osmosis." Felly, dwi'n teimlo mae rhaid i ysgolion gynradd ac uwchradd (yn ogystal a'r canolfannau iaith) gwneud fwy o ymdrech i drochi plant yn yr iaith Gymraeg gan, yn fy marn i, wrth ystyried y cyfryngau, yn enwedig teledu, y we, cerddoriaeth poblogaidd yn ogystal a poblogrwydd diwilliant Eingl-Americanaidd, does ddim modd yn 2011 i plentyn Cymraeg iaith gyntaf yn y Fro Gymraeg osgoi ddysgu Saesneg, felly, er mae rhaid cynnal wersi Saesneg yn yr ysgol er fwyn ddysgu'r iaith safonol i'r plant, teimlaf mae rhaid rhoi llawer fwy o bwyslais ar y Gymraeg yn y sector cynradd ac uwchradd yn y Fro Gymraeg.     

2 comments:

  1. Pwyntiau dilys iawn a braf cael gwybod y sefyllfa ar draws Cymru. Mae'r sefyllfa yn ardudwy yn swno'n un go debyg i ysgol Dyffryn Aman. Lle mae'r mwyafrif yn gallu'r iaith ond heb hyder ac yn cael eu gorfodi i wneud eu haddysg yn Saesneg am nad oes gan yr Ysgol y staff na chwaith y mesurau i'w trochi yn yr iaith. Yr hyn sydd yn digwydd yw bod y plant yn dod o ysgolion cynradd sydd bron yn rhai uniaith Gymraeg lle gosoder bwyslais ar ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob maes ar y iard ymhobman i ysgol uwchradd lle nad yw'r anogaeth hynny yn bodoli na chwaith yn golygu bod y plant yn cael y cyfle i ymestyn eu Cymraeg ymhellach. Sefyllfa trist iawn.

    ReplyDelete
  2. Diolch. Dwi newydd wedi cael golwg ar ardroddiad Estyn ar gyfer Ysgol Ardudwy, ac er ei fod o'n 5 mlwydd oed erbyn hyn, dwi'n meddwl mae'r ardroddiad yn codi ambell i gwestiwn ynglyn a'r defnydd o'r Gymraeg a Saesneg sydd dal yn cwestiynnau dilys hyd heddiw. Er engraifft, os oedd oeddetu 33% o'r ddisgyblion yn dod o gartrefi Cymraeg, (ffigwr dwi'n meddwl sydd wedi gostwng erbyn hyn gan ystyried cyn lleiad o Cymraeg dwi'n clywed yn yr ardal erbyn 2011)ond roedd 70% yn rhugl yn y ddwy iaith, pam felly oedd yr ysgol yn defnyddio'r ddwy iaith yn wersi'r 70% yn lle ymgeisio magu hyder y ddisgyblion yn y Gymraeg trwy defnyddio Cymraeg yn unig (ac defnyddio geirfa ddwyieithog yn ambell wers os dyna oedd dymuniad y ddisgyblion.)Wedyn o safbwynt y 30% doedd ddim yn rhugl, efallai bysaf wersi ddwyieithog wedi bod o lles iddynt er fwyn gwneud yn sicr roedd pob ddisgybl yn ddwyieithog, fel mae'r bwriad strategaeth addysg Gymraeg y sir. Mae hyn mond yn cadarnhau imi mae rhaid cael newidiadau sylweddol os mae'r Gymraeg yn mynd i oroesi nid yn unig yn yr ardal hon, ond yn y Fro Gymraeg yn gyffredinol.

    ReplyDelete