Yn ol yr erthygl canlynol o'r wefan y BBC: http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9570000/newsid_9577500/9577564.stm mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu ad-drefnu llywodraeth lleol fewn i chwe rhanbarth gwahanol a wneith rhannu cyfrifoldeb mewn meusydd megis addysg a gofal cymdeithasol.
Rwan 'ta, er gwaetha'r ffaith mai ddim ond braslun yw'r cynllun, ac dwi yn cytuno mae rhaid ad-drefnu llywodraeth lleol i raddfau, dwi'n teimlo y mae'r cynllun presennol yn un wael dros ben a wneith, fel sydd yn cael ei nodi yn yr erthygl, creu dryswch ymysg y cyhoedd ynglyn ag atebolrwydd am polisiau gwahanol. Er enghraiff, yn rhanbarth y gogledd, sut wneith hyn effeithio ar addysg cyfrwng Cymraeg os oes rhaid i cyngor Sir Fon cyd-weithio gyda cyngor Sir y Fflint, neu sut wneith iechyd cael ei effeithio os oes rhaid cael polisi gyffredin.
Credaf efallai bysaf o'n syniad ystyried rhywbeth yn debyg i'r drefn roedd yn bodoli rhwng y 70au a 1996 (gyda ambell i newid, e.e. cynghorydd dinasoedd ar wahan.) Credaf y fantais fwyaf hefo ffasiwn drefn bysaf lleihau'r rhanbarth gogleddol, sydd, yn ol y braslun, yn rhy eang yn fy marn i.
Ond, ar y cyfan, bydd rhaid i ni gyd aros er fwyn gweld sut wneith y cynlluniau ddatblygu.
No comments:
Post a Comment