Monday 26 September 2011

Canolfan Gymraeg newydd i Wrecsam

Yn gyntaf, hoffwn ymddiheuro am y ddiffyg o bostiau sydd wedi bod ers y rhai ddwythaf. Ond gan fy mod i'n nol yn y brifysgol rwan, bydd llai o amser gen i i flogio drost y flwyddyn nesaf.

Rwan 'ta, yn ol at prif bwriad y post hwn. Yn ol erthygl fan hyn, mae rhagor o cyfarfodydd wedi bod yn cymryd lle ynglyn a'r Canolfan Gymraeg newydd yn Wrecsam. Er fy mod i'n bersonnol yn ffafrio'r syniad o ganolbwyntio ar adfywio'r iaith yn siroedd megis Sir Fon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin, ac wedyn adfywio'r iaith yn ardaloedd fwy Saesneg, dwi'n meddwl mae hyn yn ddatblygiad arwyddocaol dros ben. Dwi'n credu hyn oherwydd, hyd yn oed tu allan i'r Fro Gymraeg, mae'n hanfodol i sicrhau mae yna llefydd i siaradwyr Cymraeg (rhai mamiaith a ddysgwyr) ddod at eu gilydd mewn rhanbarthau o Gymru lle nac ydi'r iaith mor "amlwg" fel petai. Mae canolfan o'r fath hefyd yn bwysig oherwydd mae yna cyfle hollbwysig i ddysgwyr a siaradwyr sydd wedi elwa o'r sustem addysg cyfrwng Cymraeg cael cyfla i defnyddio'r iaith mewn sefyllfa fwy anffurddiol er fwyn iddynt gallu sylweddoli mae'r iaith Gymraeg yn iaith fyw sydd yn gallu cael ei defnyddio tu allan i'r ystafell dosbarth.

Pob hwyl Wrecsam!

No comments:

Post a Comment