Wednesday 7 September 2011

2 achos o bryder i'r iaith Gymraeg heddiw

Mae yna 2 erthygl ar wefan Golwg360 heddiw sydd yn gwneud imi poeni unwaith yn rhagor am ddyfodol yr iaith Gymraeg oherwydd sawl ffactor, ond y prif ffactor yn y 2 erthygl yn fy marn i yw ddiffyg awydd intergreiddio.

Yn gyntaf, mae'n gywilyddys imi ddarllen yma bydd ddim rhaid i perchnogion newydd Radio Ceredigion ddarlledu yn y Gymraeg. Yn fy marn i, mae hyn yn ddangos yn glir bydd rhaid i bobl leol ceisio cymeryd y drwydded drosodd os fydd 'na unrhyw gobaith cynnal gwasanaeth ddwyieithog neu mae yna peryg na fydd yr orsaf yn wasaneuthu 52% o'r boblogaeth y sir yn deg trwy peidio cynnal gwasanaeth ddwyieithog.

Yn ogystal, mae yna erthygl arall yn fama sydd yn achosi imi poeni oherwydd yn bennaf fydd 'na ddim modd i bobl lleol prynnu tai yn eu ardaloedd enedigol oherwydd prisiau sydd yn llawer rhy uchel a chyflogau'n llawer rhy isel. Fel rhywun sydd yn ddwad o Eryri dwi'n gwybod yn iawn bod mae yna gormod o tai wedi cael eu brynnu fel ail gartrefi/tai haf. Yn ogystal, fel sydd yn gael ei nodi yn yr erthygl, mae yna gormod o pobl ifanc symyd allan ac lot rhy gormod o pobl hen sydd yn symyd i'r ardal sydd, ar y cyfan yn gwrthod intergreiddio na ddysgu'r iaith yn gyfan gwbwl. Dwi'n gobeithio ddarfod yn y Brifysgol y flwyddyn nesaf, cael gwaith a cael cartref fi'n hyn, ond tydi o ddim yn edrych yn debyg y fydd o'n bosib oherwydd yr hyn sydd eisioes wedi cael ei nodi yn yr erthygl. Ble mae'r tecwch, ac yn pwysicach fyth, beth mae'r ASau/ACau sydd yn cynrychioli'r ardal, yn ogystal a'r parc cenedlaethol, yn mynd i gwneud am y peth??  

2 comments:

  1. Yn wir mae ymosodiadau neu fygythiadau yn erbyn yr iaith wedi dod yn fwyfwy amlwg o fewn y misoedd diwethaf 'ma, achos i bryderu'n fawr.

    ReplyDelete
  2. Yndi wir, ac mae'n waeth fyth bod does 'na ddim awydd i'w gweld ymysg gwleidyddion, awrdudodau lleol ayyb i newid y sefyllfa bresennol i'r gwell.

    ReplyDelete