Thursday 14 June 2012

Dysgu Ieithoedd Modern yn ysgolion cyfrwng Cymraeg?

Wedi imi ddarllen disgrifiad o ysgolion Diwan (ysgolion cyfrwng Llydaweg yn Llydaw) fan hyn, wrth ystyried y ffordd mae'r ysgolion hyn yn cyflwyno sawl iaith i'r ddisgyblion, dwi'n meddwl bod hyn yn sonio fel rhywbeth gall Llywodraeth Cymru/cynghorau sir cyflwyno yn eu hysgolion cyfrwng Cymraeg/naturiol Cymraeg er fwyn hybu sgiliau amlieithrwydd cyn i ddisgyblion dechrau eu haddysg yn yr ysgol uwchradd.  Wrth imi edrych ar y dull mae ysgolion Diwan yn eu defnyddio, credaf dyma ffordd o efallai cyflwyno ieithoedd modern yn ysgolion gynradd:

Meithrin/Dosbarth derbyn/Cyfnod Sylfaen: Cymraeg yn unig (cadw at y drefn presennol)
Blwyddyn 3: cyflwyno Saesneg fel pwnc yn unig OND nid fel cyfrwng dysgu (fel sydd yn digwydd yn ysgolion 'naturiol' Cymraeg)
Blwyddyn 5: Credaf erbyn hyn, gan ystyried yr oes sydd ohoni, y bydd pob plentyn yn rhugl yn Saesneg, ac felly efallai y cyfnod hwn byddai'r cyfnod gorau i cyflwyno iaith newydd am rhwng 1-2 awr yr wythnos tan iddynt cychwyn yn yr ysgol uwchradd.
Ysgol uwchradd: 5 awr o wersi iaith modern yr wythnos. Ar gyfer y ddisgyblion sydd yn ddangos gallu ieithyddol da, credaf y dylid cyflwyno iaith modern arall yn ystod Blwyddyn 8.
TGAU: Angenrheidiol i barhau hefo o leiaf un iaith dramor (felly Cymraeg Iaith Gyntaf, Saesneg + iaith Ewropiaidd)

Rwan 'ta, efallai eich bod chi'n meddwl hyd yma "I be 'dan ni eisio gwneud hyn pryd mae hi'n ddigon o frwydr ceisio ddwyn perswad ar blant i siarad Cymraeg yn ein hysgolion ac i sicrhau eu fod yn rhugl eu Gymraeg?" ac i raddfau dwi'n cytuno a'r safbwynt hyn. Ond, clywais i y llynedd (mis Tachwedd/Rhagfyr) bod ysgolion cyfrwng Basgeg yn Wlad y Basg yn gwneud rhywbeth tebyg er fwyn ceisio ehangu gorwelion ieithyddol y blant ac i ceisio ddangos iddynt mae modd defnyddio ieithoedd eraill heb law am Sbaeneg/Ffrangeg. A chredaf dyna beth mae'r ysgolion Diwan yn ceisio gwneud wrth cyflwyno sawl iaith ychwanegol i'r plant, er fwyn ddangos iddynt mae modd siarad ieithoedd eraill heb law am Ffrangeg er fwyn cyfarthrebu. Ond wedyn, mae rhaid ystyried pa ieithoedd i gyflwyno i'r ddisgyblion (a'u diddfordeb yn yr iaith honno a diwylliant y gwlad/gwledydd dan sylw), ac wrth gwrs mae agweddau'r rhieni/athrawon tuag at ieithoedd neu'r gwledydd ble mae'r iaith honno'n cael ei siarad sydd yn mynd i cael effaith mawr ar agwedd y plant (rhywbeth, yn fy marn i wnaeth cyfrannu'n sylweddol at agweddau gwrth-Ffrangeg/Cymraeg yn fy ysgol uwchradd i.) Ac wrth gwrs mae rhaid ystyried sut bysa'r iaith ychwanegol yma'n cael effaith ar gallu'r athrawon i gyflwyno'r cwriciwlwm cenedlaethol yn effeithiol (yn enwedig yr angen i ddysgu o leiaf 70% o'r cwricwlwm trwy'r Gymraeg, canran, yn fy marn i, dylsa'r awdurdodau codi i 80-85%). Ac wedyn wrth gwrs, rydw i'n cydnabod bod y gallu i gyflwyno ieithoedd modern yn dibynnol ar gallu ieithyddol yr athrawon, ac faint 'sa hyfforddi athrawon yn costio, neu'r costau o cyflogi aelod o staff yn arbennig ar gyfer dysgu Ffrangeg/Sbaeneg neu pwy bynnag iaith.

Wedi ddweud hynny, mi ydw i'n o blaid ail-gyflwyno cwrs craidd TGAU mewn o leiaf un iaith modern, efallai 'sa hynny'n helpu hybu sgiliau ieithyddol athrawon y dyfodol?

Yn ogystal, mae hi'n wrth gwrs amhosib i ragweld sut wneith iaith modern dylanwadu ar agweddau ddisgyblion tuag at y Gymraeg neu Saesneg hyd yn oed.

Felly, yn amlwg mae hyn yn mater llawn cymhlethtod, ac hoffwn gwybod beth mae pobl eraill yn meddwl a sut 'sa nhw'n diwygio'r awgrymiadau hyn.  

          

2 comments:

  1. Syniad positif iawn. Dwi'n cytuno bod agweddau'r rhieni yn holl bwysig. Wrth gwrs, mae cael y Saesneg yn drydedd iaith yng Ngwlad y Basg yn debygol o fod yn fwy teniadol nag unrhyw iaith arall gan mae'r Saesneg yw hi (ac felly yn amlwg o fudd economaidd ac yn agor cymaint o'r byd i ddyn) tra nad oes trydedd iaith amlwg i rywun sy'n eisoes yn siarad Saesneg. Gwlad arall fyddai'n diddorol o ran cymharu yw Luxembourg. Rhaid cael pobl i ddeal bod amlieithrwydd yn arferol mewn llawer iawn o wledydd.

    ReplyDelete
  2. Diolch. Er gwybodaeth, fel ail iaith mae Saesneg yn cael ei ddysgu yn ysgolion cyfrwng Basgeg, cyn cyflwyno Sbaeneg/Ffrangeg, yn ol y person oedd yn trafod hyn hefo fi, ella ddylswn i wedi gwneud hynny'n fwy amlwg yn y post. Dyna'r prif anhawster dwi'n credu, os am ddysgu trydydd iaith o Bl.5 ymlaen, mae'n peth cymhleth trio dewis iaith os mae'r plant eisoes yn siarad Saesneg. Roeddwn i'n meddwl am cyflwyno pa bynnag iaith sy'n cael ei gyflwyno ym mlwyddyn 7 yn yr ysgol uwchradd lleol (Ffrangeg gan amlaf) neu Sbaeneg. O ran ystyried ieithoedd amlwg ar sail budd economaidd, yr unig un sydd yn dod i'r meddwl yw Mandarin, ond teimlaf bod honno'n iaith ddigon annodd i ddysgu yn y lle cyntaf, heb son am ddisgwyl dysgu plant mor gymaint a sy'n bosib am 1-2 awr yr wythnos (a ddysgu nhw sut i ysgrifennu'r iaith). Ac wrth gwrs mae yna'r anhawster o sicrhau bod yna aelod o staff sy'n gallu ddysgu'r iaith. O'n i heb wedi meddwl am Luxembourg i ddweud y gwir, ond mae hi'n difyr sut maent yn defnyddio'r tair iaith swyddogol yn ystod addysg gynradd. Yn bendant, mae rhaid cael pobl i sylweddoli hynny, ac wrth gwrs, er ei fod hi'n iaith poblogaidd i ddysgu, nid oes modd mynd i gwledydd wahanol a dderbynnu ar Saesneg yn unig.

    ReplyDelete