Wednesday 31 August 2011

Adolygiad: Parallel Text: Nouvelles en Francais.

Dwi wedi bod yn ddarllen yr llyfr hwn yn ddiweddar am rhesymau weddol debyg i fy rhesymau drost darllen "A Little Book of Language" gan David Crystal, h.y. diddordeb. Yn ogystal a ddiddordeb yn Ieithyddiaeth, dwi wedi ymddiddori yn yr iaith Ffrangeg ers imi ddechrau ei ddysgu fel 3ydd iaith ar ol imi ddechra yn yr ysgol uwchradd.

Erbyn hyn wrth gwrs dwi newydd wedi darfod fy astudiaeth o'r iaith Ffrangeg yn y prifysgol eleni, ac felly, yn gyntaf, dyma'r llyfr delfrydol (ar hyn o bryd) i helpu fi cadw'r sgiliau ieithyddol dwi wedi datblygu drost y flynyddoedd. Hefyd, dwi'n rhywun sydd yn hoffi ddarllen llyfrau, ac dyma'r llyfr gyntaf yn Ffrangeg dwi wedi llwyddo brynu hyd yn hyn, gan nag oes modd cael hyd i llyfrau sydd wedi eu sgwennu yn yr iaith Ffrangeg yma yng Nghymru yn hawdd iawn (felly, os oes 'na rhywun sydd yn gwybod ble fedrai ffeindio rhagor o lyfrau yn yr iaith hon, byswn i'n wir yn werthfawrogi'r cymorth.)

Cyn bellad a mae'r straeon yn y cwestiwn, straeon fer ydi nhw gyd (heb law am 1, yn fy marn i mae'r un yma fwy fel nofel fer.) Mae hyn yn ddefnyddiol iawn ar y cyfan. Rhywbeth arall sydd yn defnyddiol iawn ydi'r cyfieithiad Saesneg sydd ar y tudalen gyferbyn i'r un Ffrangeg, er dwi'n trio peidio defnyddio nhw mor gymaint, ond mae'n anoddach peidio gwneud wrth i'r straeon fynd yn fwy cymhleth cyn bellad a mae'r iaith anoddach yn y cwestiwn.

Felly, ar y cyfan, er mae gan y straeon tueddiad ar y cyfan i cael diweddglo weddol tywyll a negyddol, er gwaethaf hyn, teimlaf mae'r llyfr hwn yn defnyddiol ar gyfer myfyrwyr yr iaith Ffrangeg sydd eisio gwella eu sgiliau darllen ac ysgrifennedig.

No comments:

Post a Comment